Sunday 30 November 2014

Blog Swyddle

Ro'n i'n gofyn gan gwefan Swyddle.com i rhoi fy marn i am defnyddio social media fel dysgwr. Wrth cwrs o'n i'n hapus i wneud e, felly, dyna ni! Pwy wyt ti? “Dave ydw i. Dwi’n 35 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerloyw gyda fy ngwraig a fy mab. Dwi’n gweithio dros Glwb Rygbi Caerwrangon. Wnes i ddechrau dysgu’r iaith yn Haf 2012.” “ Be yw dy rheswm am ddysgu Cymraeg? “Mae 3 rheswm gyda fi. 1) Gwnaethom ni benderfyniad i rhoi 2 iaith i’n mab achos ry’n ni’n credu bydd hyn yn ei helpu yn ei fywyd. O’n i’n ofnadwy ar ieithoedd yn yr ysgol, felly roedd yn rhaid ifi ddewis yr unig iaith ro’n i moyn siarad – Cymraeg. 2) roedd tadcu yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ond wnaeth e ddim dysgu fy nhad sut i siarad achos ” it will only hold you back.” Dwi’n meddwl wnaeth e wneud camgymeriad mawr yn 1946, a dwi moyn gwneud rhywbeth amdano fe. 3) Dwi’n teimlo fel Cymro. Dwi wastad wedi teimlo fel Cymro. Pryd o’n i’n 6 wnes i ddweud “I’m Welsh.” ond roeddwn i’n hanner Saes. Dwi’n byw yn Lloegr. Dwi’n siarad Saesneg. Dwi’n swnio fel Saes. O’n i’n “fed up” o bobl yn dweud pethau fel “you’re not Welsh, your English.” Wnes i feddwl bydd dysgu’r iaith yn helpu fi ddod o hyd fy hunaniaeth fel Cymro. Dwi moyn gweithio yn y Gymraeg yn y pen draw.” Wyt ti’n credu bod y byd ‘cyber’ yn galanogol i ddysgwyr? Be am ffrwd Cymuned Swyddle? “Mae social media yn bwysig iawn ar fy nhaith o ddysgu. Mae’n bosib i fi cael sgwrs yn Gymraeg bob dydd. Mae’n help mawr gyda fy hyder, ac mae’n ffordd hawdd o gael ateb i gwestiynau. Mae Swyddle yn defnyddiol iawn achos mae nhw’n AD bob tweet, felly lot o bobl yn darllen fy Nghymraeg!” Pa bryderon/obeithion sydd gyda thi am dy ddyfodol fel siaradwr a dyfodol yr iaith? “Fy ngobaith i yw y bydd pobl yn deall mae pobl ifanc yw dyfodol yr iaith, yn enwedig y Cymry ail iaith. Mewn ysgolion Saseneg iaith cyntaf, mae angen i’r wers Gymraeg fod yn uchafbwynt yr wythnos. Fel oedolyn sy’n dysgu, ‘da ni’n cael ei’n hannog i beidio poeni gormod am dreigliadau ac yn y blaen. Dwi’n poeni fod disgyblion ffrwd Saesneg yn dysgu gormod o ramadeg yn hytrach na siarad am bynciau sydd o ddiddordeb iddynt.”