Friday 14 July 2017

Awr Y Dysgwyr Rhyngwladol!?!

Un Nos Ionawr 2016 wnes i gael syniad creu lle am ddysgwyr siarad gyda'n gilydd (a gyda siaradwyr iaith cyntaf) ar Twitter -   #aydysgwyr  , pob Nos Lun 21.00-22.00. Mae Twitter yn defnyddiol iawn i fi achos mae'n y fformat o gyfryngau cymdeithasol agosaf i sut mod i'n siarad.

Wel, nawr dwi'n moyn trio gwneud tipyn bach mwy gyda #aydysgwyr felly dwi wedi gwneud tudalen Facebook - https://www.facebook.com/AwrYDysgwyr/https://www.facebook.com/AwrYDysgwyr/.

Ond dyma'r problem. Dwi ddim yn defnyddio facebook yn yr un ffordd fel Twitter, felly dwi'n moyn gwneud rhywbeth  wahanol gyda #aydysgwyr Facebook.

Ar ol 6 mis dwi wedi cael syniad o'r diwedd!

Mae byd yn bach nawr.. Dwi'n gallu siarad gyda unrhyw un trwy'r ffôn neu cyfrifiadur. Am 4 mlynedd dwi wedi hala twîts at Noe yn'r Ariannin. Y beth gorau am hala twîts iddi hi (a phawb arall yn Yr Ariannin) yw dyn nhw ddim yn siarad Saesneg. Mae'n amhosib i fi defnyddio geiriau Saesneg mewn brawddeg. Dwi'n gwybod pryd mod i'n yng Nghymru, cael sgwrs gyda rhywun, wna i ddefnyddio geiriau Saesneg hefyd. Mae'n gwych i wared yr opsiwn yma siarad efo pobl yn De America! (Wrth gwrs mae'n yr un peth yn gwrthdroi hefyd, achos dwi'n gwybod 5 geiriau yn unig yn Sbaeneg!)

Felly dyma fy syniad newydd - creu #aydysgwyr rhyngwladol ar Facebook. 1 lle am dysgwyr yng Nghymru (a Lloegr, Ewrop neu G.America) i siarad gyda dysgwyr yn Ariannin.. Dim Saesneg, Dim Sbaeneg, jyst Cymraeg! Dechrau yn yr Hydref 2017.

Bydd e'n gweithio. Pwy sy'n gwybod. 90% o fy syniadau ffaelu yn llwyr, ond dwi'n siwr bod e'n werth trio!