Thursday, 27 March 2014

Cymraeg ar y Ffordd

Dw i'n gwneud lot o gyrru bob dydd. Gyrru rhwng Caerloyw a Chaerwrangon, gyrru i ysgolion wahanol, gyrru i gaeau rygbi.. Dw i'n meddwl dw i'n eistedd mewn fy nghar i 2 awr bob dydd.
Achos o hyn, lot o twats dod mewn fy myw i amser bach!

Sai'n patient... Yn aml, pan bydd eisiau i fi gael rhywle, dw i'n eistedd tu ôl i mae twpsyn pwy sy'n meddwl mae'n syniad da gyrru 20 milltir awr... Mae hyn yn gwneud i fi mynd boncŷrs. Wel, dwi'n rhegiwr* gwych, a pan stwff fel hyn yn digwydd, dw i'n rhegi i Gymru!

Heddiw rhywbeth weird, ond anhygoel yn digwydd ar ffordd i Bershore.. Roedd fenyw hen gyrru yn araf iawn. (Yn fy amdiffyn i, do'n i ddim yn gallu gweld mae hyn pan wnes i ddechrau gweiddi). Wnes i agor fy ngheg ac mae hyn yn dod allan:

"BETH Y FFYC WYT TI'N FFYCIN GWNEUD."

Dim Saesneg.. Do'n i ddim yn meddwl amdano fe achos o'n i'n crac iawn. Wel, sai'n approve o fy newis geiriau , ond, o'n i'n rhegi yn Gymraeg! Hapus iawn gyda hyn!

Nawr, mynd yn glouach, mae ffordd hyn 60 milltir awr!



*Rhegiwr - My random guess for swearer.

Monday, 24 March 2014

O crap, mae pobl yn ofyn stwff i fi nawr!

Wel, mae stwff strange wedi bod yn digwydd i fi!

Dwi wedi reached lle ble dw i'n gallu siarad Cymraeg tipyn bach gwell na mae rhai o dysgwyr arall dw i'n nabod. Nid yw lot gwell, ond gwell none the less!

Fel mae'n digwydd, mae hyn yn gwneud i fi yn fwy ansicr.. Yn enwedig pan rhywun gofyn i fi rhywbeth am yr iaith..Beth yw mae peth cyntaf bod dod mewn fy brain pan rhywun wedi gofyn i fi helpu? Pam y ffyc wyt ti'n gofyn fi, sai'n gwybod dim byd!

Ond, fel arfer, bydd rhaid i fi stop bod twat mawr a derbyn responsibility.

Heddiw rhywun wedi dweud i fi, "Please correct my mistakes." Gofyn hyn i fi!?! Dwi wedi invented mwy camgymeriadau na unrhyw un yn y byd! Felly, wnes i ddweud fy mantra i hi - Paid becso!

Ie, sai'n gwybod yn fawr iawn, ond dw i'n gwybod un peth bwysig iawn. Dw i'n gwybod sut mae'n teimlo fel dysgwr.. Felly mae'n amser i man up.  Dave ydw i, dw i'n hapus i helpu!! :)

Friday, 7 March 2014

Stwff dwp dwi wedi dweud (3).. Wel, tweeted.

Dwi wedi swnio fel twpsyn dwywaith wythnos hyn.

Dw i'n defnyddio Twitter i siarad gyda phobl. Mae'n bwysig iawn trio cael stwff fy mod i'n wedi dysgu i sgwrs. Weithiau dw i'n gwneud camgymeriadau mawr.

Wel, blydi hashnod yn peryglus iawn i fi. Penwythnos diwethaf o'n i'n ar twitter ac wnes i weld lot o #cig2014. Wnes i feddwl oedd rhywbeth yn digwydd gyda Chig yng Nghymru!  Dw i'n gwybod am Can I Gymru hefyd, wnes i wylio sioe 2013. Lwcus, wnes i ddim yn sgwennu tweet fel "Beth yn drwg gyda Chig heno!"

Camgymeriad hawdd gwneud, a dwi wedi gwneud lot o camgymeriadau worse na hyn.

Un peth arall anodd iawn, wnes i anghofio pawb siarad Saesneg weithiau hefyd, neu gwylio rhaglen teledu yn Saesneg. Dw i'n jyst dilyn pobl pwy sydd siarad Cymraeg (ac mae rhai o bobl pwy sydd siarad Manaweg, Cernyweg neu Gaeleg hefyd), felly, dim Saesneg ar fy timeline rili.

O'n i'n darllen tweets a wnes i weld rhywun sgwennu #Dynamorevealed. Wnes i ddarllen hyn fel "dyn a mor, Eve Aled" felly o'n i'n chwylio i rhaglen am Eve ac Aled hwylio ar y mor rhwle!

Ie, dw i'n swnio fel prat pan dw i'n sgwennu amdano fe, ond, dw i'n hapus.. Falle tipyn bach o fy brain dechrau meddwl yn Gymraeg! Dw i'n dechrau darllen Saesneg fel Gymraeg.. Progress.

Nawr, dw i'n mynd sgwennu i BBC Lloegr am fy syniad gwych newydd. "Man and Sea - Eve and Aled sail around Britain." Ennillwr!

Saturday, 1 March 2014

Siarad am Poo!

Dw i'n trio siarad Cymraeg gyda fy machgen a) felly bydd e'n siarad iaith yn fwy hawdd na fi (gobeithio) a b) achos mae hyn yr unig ffordd dw i'n gallu ymarfer yng Nghaerloyw.

Wel, gallwch chi'n dychmygu mae rhai o'r stwff dw i'n dweud bob dydd. Heddiw o'n i'n newid ei glwt, a siarad wrtho fe ar yr un pryd.

Wnes i ddweud hyn..

"Wyt ti'n mynd i poo?"

"Na, dylen i dweud wyt ti'n mynd i boo.."

"Er, na, sai'n dweud hynny achos ni'n chwarae peek a boo! Sgwn i beth yw poo yn Gymraeg.. Poo yw poo dw i'n meddwl. Ugh, dwi ddim yn wybod. Falle, bydd rhaid i fi siarad am poo yn Saesneg!"


Siarad am poo a treigladau gyda Iwan. Oedd hyn beth o'n i'n meddwl bydde i'n gwneud, pan wnes i benderfynu dechrau dysgu iaith!

Wednesday, 26 February 2014

Iwan



Dyma Iwan, fy mab. Dw i'n trio siarad yn Gymraeg gyda fe. Mae e'n gwneud mor gwych.

Cofiwch, mae e'n cael fi fel ei athro, ond mae e'n dal yn gallu deall 2 ieithoedd!

Mae'n teimlo neis pan dwi'n siarad gyda rhywun yng Nghymru, yn enwedig pan mae nhw'n deall beth dw i'n dweud. Ond, mae'n teimlo ardderchog pan dw i'n dweud rhywbeth wrtho fe ac mae e'n gallu deall.

Neithwr, oedd Iwan yn chwarae gyda stwff pan wnes i ddweud.
"Iwan, wyt ti'n gallu i gael e nol ar y bwrdd plîs?" Wnaeth e i neud e hefyd.

Y bore yma, wnes i ddweud wrtho fe " Iwan, dylen ni mynd i fyny y staer a brwsh dy ddanedd i?" ac mae e'n gadael y lolfa a dechrau dringo'r staer!

Dw i'n 34 a dw i'n dysgwr. Iwan yn 18 mis ac mae e'n siaradwr!

Sai'n rhoi llawer o stwff i Iwan. Bydda i'n byth yn gwneud lot o arian. Ond, falle, rhoi 2 ieithoedd iddo fe yn gwell na bob arian yn y byd i gyd. 

Dw i'n jyst dymuno oedd fy Nhadcu dysgu fy Nhad sut i siarad, achos bydde hynny'n gwneud popeth yn fwy hawdd i ni! 

Sunday, 23 February 2014

Cwestiwn Ddibwynt, ond, Mae'n Cwestiwn Mawr I Fi.

Mae 'na rhywbeth becso i fi, ond mae'n rhywbeth dwp iawn. Fel mae'n digwydd, mae'n rhywbeth bod gwneud dim gwahaniaeth i unrhyw un ond fi, ond mae'n dal yn rhywbeth dw i'n meddwl bwysig.

Dyma cwestiwn

Pryd i ddweud "Cymraeg" ar ieithoedd siarad ar Facebook.

Sai'n deall pam mae cwestiwn hyn gwneud i fi meddwl mor galed, ond dw i'n meddwl mae'n statement mawr.
Galla'i siarad Cymraeg?
Wel, dw i'n gallu siarad yn fwy na 2012, a mae gallu gyda fi i gael tipyn bach o sgwrs yn Gymraeg. Dw i'n gallu sgwennu fy mlog i yn Gymraeg, ond, dw i'n gwybod lot o camgymeriad yma hefyd. Dw i'n hapus gyda beth dw i'n gallu dweud ar hyn o bryd, ac i rhwyun pwy oedd crap ar ieithoedd yn ysgol dwi'n meddwl dwi'n gwneud yn dda iawn, ond, galla'i siarad Cymraeg? Beth yw'r ateb?

Dw i'n meddwl yn Saesneg. Pan dw i'n gwrando i'r Radio, neu gwylio S4C, a dwi'n clywed stwff dw i'n deall, dw i'n dal yn translate yn fy mhen. Os dw i'n gallu siarad Cymraeg, does dim eisiau i fi neud hyn, surely.

Bydd lot o bobl meddwl, pam wyt ti'n becso am hyn. Fydd dim pobl yn care beth ti'n sgwennu ar dy broffil Stop bod twat! A, chwarae teg, bydde i'n dweud hyn os rhywun yn dweud rhywbeth debyg i fi. Ond i fi, mae'n statement mawr am y lefel o dy iaith di i ddweud 'Siarad Cymraeg' ar proffil fel hyn. Mae disgwyliad am eich deall o'r iaith gyda'r statement, a sai'n teimlo fel digon deall gyda fi i dweud dim ond ddysgwr Cymraeg ar hyn o bryd. Dim optiwn i hyn ar Facebook, felly, mae'n aros Saesneg i nawr.

Pan dw i'n stop i fod twat a chael Cymraeg ar Facebook, mae'n amser dechrau becso am pryd gwisgo badge siarad Cymraeg!! 

Mae'n byth yn diwedd!

Monday, 17 February 2014

Deall Pan Pobl Cymryd Y Piss!

Bob dydd dw i'n gwrando i Radio Cymru pan dw i'n mynd i ac o gwaith. Mae'n defnyddiol iawn i ymarfer gwrando fel hyn, yn enwedig achos dw i'n rwtsh ar gwrando. Mae'n 32 milltir rhwng Caerloyw (gytre) a Chaerwrangon (gwaith), felly lot o amser gyda fi gwrando i geiriau a trio deall!    

Roeddwn i fynd i fyny y M5 y bore yma. Roedd hi'n smashing (smashio??) i lawr gyda glaw, rili drwm iawn. Dyma fi gyda wipers mynd yn glou, meddwl o un arall gyrru ofnadwy, pan dw i'n clywed cân dw i'n gwybod dechrau.. Roedd Ysbeidiau Heulog gan Super Furry Animals.

" Ha ha," wnes i ddweud i fy hun, "Rhywun wedi gymryd y piss yma!"

Ond, ar ôl meddwl amdano fe, mae'n moment of triumph i fi. Ie, mae rhywun yn cymryd y piss, ond, wnes i ddeall bod rhwyun yn cymryd y piss. Gwych.