Showing posts with label Dysgu Cymraeg. Show all posts
Showing posts with label Dysgu Cymraeg. Show all posts

Wednesday, 24 April 2019

Cerdyn Post o Loegr - neu, edrych at barn Seisnig o'r iaith Gymraeg..

2 wythnos yn ôl collais i fy shit ar bws, pryd apropros o ddim byd, wedodd dyn ifanc tu ôl i fi "Welsh is a dying language."

Ro'n i'n ar bws o Gaerwrangon i Coventry. Roedd bws llawn o Saeson. Ro'n i'n siarad Saesneg gyda fy ffrind ar y tro (a phryd mod i'n siarad Saesneg, gyda fy acen Caerloyw, fyddwch chi ddim yn meddwl mod i'n siarad Cymraeg hefyd). Roedd dim cliw gyda'r dyn yma oedd siaradwr Cymraeg eistedd ar blaen iddo fe. Dweud hyn jyst felly bod chi'n deall oedd dim yn wind up. Wnes i ddim yn nabod fe. Oedd jyst ei farn.

Wel, wnaeth fy ffrind cuddio ei phen tra o'n i'n troi tu ol... "Esgusodwch fi mêt, what did you say?"

Eniwê, ar ôl sgwrs bach addysgol, parhaision ni ar ein taith!!
Ond wnaeth sefyllfa yma gwneud i fi meddwl am yr iaith ac yr agweddau yn Lloegr i'r iaith Cymraeg.

Nawr, mae'n amhosib i fi siarad am 'y Saeson' achos dwi'm nabod pawb yn Lloegr. Dwi'm moyn siarad am cyfryngau cymdeithol achos bod ni'n gwybod i gyd bod twats sy'n cuddio tu ol eu sgrîn, teipio nonsens i gael adwaith. A dyw hyn ddim yn gynrychioli'r majority o bobl yn Lloegr. Felly, dwi wedi meddwl am pobl mod i'n nabod, rhai o nhw mod i'n caru (neu wnes i garu unwaith), gyd o nhw mod i'n hoffi. Ac, mae'n bwysig iawn dweud, mae nhw'n gwybod i gyd mod i'n siarad Cymraeg.

Gwaith:

Pryd unrhyw un arall sy'n siarad Cymraeg dod i fy ngwaith, wna i ddechrau siarad yn Gymraeg iddyn nhw. Nid mewn cyfarfod neu unrhywbeth fel hyn - Saesneg ydy'r iaith o'r busness - ond jyst cael sgwrs 1 i 1. Unwaith, ro'n i'n siarad gyda rhywun.  Oedd dyn arall o fy ngwaith sefyll agos i ni, ond oedd sgwrs rhwng fi a siaradwr arall (sgwrs chwaraeon fel arfer!).

Wedodd y dyn arall - "It's a bit rude to speak in Welsh whilst I'm stood here."

Un sefyllfa arall sy'n tebyg. Dwi'n ymweld llawer o ysgolion gyda fy swydd. Yn achlysurol gwrddiais i athro/athrawes sy'n siarad Cymraeg. Mae'n naturiol i ni siarad yn Gymraeg mewn ystafell staff, neu ystafell dosbarth. Ro'n i'n cerdded lawr y corridor siarad gyda rhywun unwaith, wedyn athrawes arall dod y ffordd arall.

Clywodd hi o'n ni'n siarad Cymraeg gyda'n gilydd.. "Oh, you could be speaking about me, couldn't you?"

Teulu:
Roedd teulu fy nhad Cymro/Cymraes Cymraeg. Siaradwr Saesneg yn unig ydy fy nhad a Saesnaes ydy fy Mam. Wedodd hi, "Well, when we used to visit them they all spoke Welsh to each other and only spoke English to us."

Roedd fy step father siarad i fi unwaith bod y tro wnaeth e ymweld tafarn yng Nghaernarfon gyda rhywun yn eu teulu sy'n siarad Cymraeg (methu cofio y stori i gyd yma, meddwl oedd rhywun sy'n priodi i fewn i'u teulu neu rhywbeth).

"They were all speaking Welsh to each other, and only spoke English to me which I thought was rude and unnecessary."

Y ddwy o nhw wedi cefnogi fi siarad Cymraeg gydag Iwan (ac i fy hun).   

Cariadau:

Edrychych, dwi'm cael llawer o straeon am fy bywyd cariad! Fel arfer dwi'n repel menywod ond dwi wedi cael 2 perthwynos - fy nghyn gwraig a fy nghariad.)

Roedd fy nghyn gwraig cefnogwr o fi siarad Cymraeg gydag Iwan TAN wnaeth e dechrau siarad nol i fi. Wnaeth hi ddim yn hoffi ffaith bod ni'n dweud stwff bod hi ddim yn deall.

"You could be saying anything."

Nawr, roedd fy mhriodas mynd lawr y shitter ar yr un pryd - felly falle meddyliodd hi o'n i'n siarad amdonon hi gydag Iwan pryd o'n i'n cael sgwrs am Tomos y Tanc neu rhwybeth, ond wneath hi agweddol yn newid am siwr, pryd oedd Iwan a fi siarad ar lefel wnaeth hi ddim yn deall.

Gyda fy nghariad mae'n wahanol, ond, achos o self esteem issues gyda'r ddwy o ni mae'n dal yn broblem bach. Cymraeg ydy:

"An important bit of your life that I can't be a part of."

Nawr, dwi'n deall tipyn bach yma. Cymeriad wahanol ydw i yn Gymraeg. Outgoing, hyderus, siarad gyda pobl mod i ddim yn nabod. Hapus. Felly dwi'n deall sut bod hi'n gallu meddwl bod e'n well i fi bywyd yn Gymraeg ac, wedyn, yn ei phen hebddo hi. Dyw hyn ddim yn cywir a tra mod i'n deall (wel, tipyn bach) dwi'n anghytuno gyda hi. Dwi wedi trio cael hi i fewn i fy mywyd Cyraeg, ond agwedd monoglot gyda hi yn anffodus, er bod hi ddim yn angen dysgu'r iaith i gymryd rhan.

"I can't learn languages."

 Wel, beth ydr'r pwynt o hyn?? Wel, gobeithio gan edrych trwy agweddau ffrindiau/teulu/cariadau bydd posib deall pam y Saeson cael teimlad negatif i'r ieithoedd arall.

Mewn cymdeithas monolingual (sydd, tu fas o'r dinasau mawr, ydy Lloegr) mae agweddau i ieithoedd ydy paranoid yn llwyr. Pryd bod chi'n gallu deall pawb achos pawb siarad Saesneg yn unig pryd rhywun siarad iaith arall, wrth gwrs, mae'n jyst achos bod nhw'n siarad amdanoch chi.  Trwy hyn mae'n posib gweld jyst sut Brecsit wedi digwydd.

Mae'n bwysig dweud bod pawb dwi wedi grybwyll yn y flog yma ydy pobl da. Dim hilwyr. Dim cefnogwyr EDL etc. Cywir, wnaeth fy mam darllen Daily Mail (rhywbeth sy'n dal yn gyrru fy nghwaer a fi i anobeithio yn llwyr) ond mae nhw'n cynrychioli'r Seisnig arferol. Pobl da, sy'n dal yn becso am phobl siarad ieithoedd ym Mhrydain, jyst incase rhywun ydy siarad amdano nhw.

Yn anffodus sai'n gweld hyn newid yn y dyfodol agos. Bydd Lloegr yn dod mwy introverted am y 20 mlynedd nesa yn ol pob tebyg. Sai'n gwneud unrhywbeth amdano fe. Wel, dim ond parhau siarad Cymraeg pob dydd yma.


Friday, 14 July 2017

Awr Y Dysgwyr Rhyngwladol!?!

Un Nos Ionawr 2016 wnes i gael syniad creu lle am ddysgwyr siarad gyda'n gilydd (a gyda siaradwyr iaith cyntaf) ar Twitter -   #aydysgwyr  , pob Nos Lun 21.00-22.00. Mae Twitter yn defnyddiol iawn i fi achos mae'n y fformat o gyfryngau cymdeithasol agosaf i sut mod i'n siarad.

Wel, nawr dwi'n moyn trio gwneud tipyn bach mwy gyda #aydysgwyr felly dwi wedi gwneud tudalen Facebook - https://www.facebook.com/AwrYDysgwyr/https://www.facebook.com/AwrYDysgwyr/.

Ond dyma'r problem. Dwi ddim yn defnyddio facebook yn yr un ffordd fel Twitter, felly dwi'n moyn gwneud rhywbeth  wahanol gyda #aydysgwyr Facebook.

Ar ol 6 mis dwi wedi cael syniad o'r diwedd!

Mae byd yn bach nawr.. Dwi'n gallu siarad gyda unrhyw un trwy'r ffôn neu cyfrifiadur. Am 4 mlynedd dwi wedi hala twîts at Noe yn'r Ariannin. Y beth gorau am hala twîts iddi hi (a phawb arall yn Yr Ariannin) yw dyn nhw ddim yn siarad Saesneg. Mae'n amhosib i fi defnyddio geiriau Saesneg mewn brawddeg. Dwi'n gwybod pryd mod i'n yng Nghymru, cael sgwrs gyda rhywun, wna i ddefnyddio geiriau Saesneg hefyd. Mae'n gwych i wared yr opsiwn yma siarad efo pobl yn De America! (Wrth gwrs mae'n yr un peth yn gwrthdroi hefyd, achos dwi'n gwybod 5 geiriau yn unig yn Sbaeneg!)

Felly dyma fy syniad newydd - creu #aydysgwyr rhyngwladol ar Facebook. 1 lle am dysgwyr yng Nghymru (a Lloegr, Ewrop neu G.America) i siarad gyda dysgwyr yn Ariannin.. Dim Saesneg, Dim Sbaeneg, jyst Cymraeg! Dechrau yn yr Hydref 2017.

Bydd e'n gweithio. Pwy sy'n gwybod. 90% o fy syniadau ffaelu yn llwyr, ond dwi'n siwr bod e'n werth trio!

Tuesday, 9 August 2016

Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy

Ro'n i'n ymwelwr i'r Eisteddfod Dydd Iau diwethaf. Er mod i'n byw yn Lloegr, roedd y faes yn agos iawn i fi (llai na 1 awr bant), felly roedd hawdd iawn i fynd.

Roedd diwrnod gwych i fi. Siaradais i lawer o Gymraeg, a dim lot o Saesneg am 7 awr. Wnes i gwrdd lot o bobl mod i'n nabod trwy Twitter, ac fy athro / athrawes - Iestyn a Cat o Say Something in Welsh. Welais i ddigon o selebs (Roedd Rhys Ifans a Leanne Wood y mwyaf enwog). Wnes i gael sgwrs gyda Dylan Ebenezer (dwi'n hyderus iawn siarad am bel-droed i unrhyw un).

Mae'n cyfle gwych i ddysgwyr.  Mae'n posib mynd 7/8 awr heb Saesneg ac dwi'n teimlo mwy hyderus yn fy sgiliau Cymraeg nawr.

Roedd fy uchafbwyntiau:
1. Cael sgwrs gyda dysgwr arall (@Bob_Sideshow) yn Gymraeg.
2. Cwrdd â lot o pobl sy'n helpu fi ar Twitter.
3. Deall lot o sesiwn C&A gyda @DylanEbz.
4. Siarad i Dylan Ebenezer (ac y ffaith ei fod e'n e'n sylweddoli fi).
5. Siarad gyda @IestynAp (y llais Cymraeg mod i'n deall mwyaf!).
6. Siarad wrthyn plant Iestyn a Cat ac y ffaith wnaethon nhw deall fi!
7. Cwrdd â 'Dysgwr y Flwyddyn' @hanlroberts.
8. Sgwrs gyda @Marshallmedia am @AwrCymru / @YrAwrGymraeg@AwrYDysgwyr
9. Wedodd @Celtes_Cymru  mod i'n swnio 'naturiol'!
10. Prynais i lot o stwff gyda enw Iwan..


Dyma rhai lluniau cach!
Gyda Rob Hyde - @Bob_Sideshow





Stwff i Iwan!



Maes D

Iestyn ac ei genethod!

Dylan Ebeneezer

Leanne Wood

Huw Marshall - Awr Cymru

Llyfrau

Awtograff Dylan Ebeneezer! 
Stwff i Iwan!
Gyda Hannah Roberts

Ain't Nobody!

Neges o Llinos Mair i Iwan












Reit te - Bydd Caergybi tipyn bach anoddach i sortio mas!!

Tuesday, 2 August 2016

Dwi'n Siarad 2 Ieithoedd... Dwi'n Cefnogi 6500... (Rantio yn erbyn agweddau monoglot Saesneg)

Os oedd Edward Longshanks, neu Benjamin Disraeli a Brenhines Victoria defnyddio Twitter bore yma, o'n nhw'n yn hapus iawn. Hapus gweld bod eu polisi o 'gwladychu ieithoedd' dal yn gwneud yn dda.

Roedd Ymerodraeth Seisnig* yn mor effeithiol ('brutally' yw'r gair gorau i ddisgrifio fe) bod lot agweddau o'r Saeson heddiw wedi ddim yn newid.

Ie, oce, roedd technoleg yn bwysig, yn enwedig technoleg y Mor, ond oedd technoleg jyst  ennill y gwlad yn y dro cyntaf, roedd 'gwladychu ieithoed' sy'n cadw pobl o dan y rheol Llundain.  Roedd polisi i rhoi swyddi gorau i siaradwr Saesneg.. Wedyn, bydd rheini annog eu blant i siarad Saesneg.. Felly, roedd agweddau dim pwynt siarad iaith eu hunain achos Saesneg yw'r iaith o gyfle.. Wedyn, cymryd y pis mas o'r iaith hen. 100 mlynedd, iaith wedi marw, pobl teimlo 'Prydeinig'. Dyw Prydeinwyr ddim yn gofyn cwestiynau o Lundain.... "Jolly good old chap, lets start raping those resourses shall we?.."

Wel, diwrnodau imperial wedi dod i ben (ym mhob lle ac eithrio Cymru), ond agweddau o rhai o siaradwyr Saesneg parhau yn y Ganrif 19.
Roedd ddadl ar BBC Brecwast bore yma am 'miliwn o siaradwyr Cymraeg 2050.

Tu fas o Loegr yr byd wedi symud ymlaen. Mae age of empire wedi dod i ben... Nid yw Lloegr perthnasol yn yr byd nawr. Bydd pawb yn derbyn bod Tseina, America, Siapan, Rwsia, India, Brasil ac Ewrop yw'r chwaraewyr mawr nawr.

Darllen twîts a Twitter yn diddorol iawn. Happily, yn Lloegr ar lleiaf, mae agweddau Victorian parhau yn gryf:

Dyna ni:
Twpsyn 1















Twpsyn 2














Twpsyn 3, gyda lefel newydd o dwpdra!!




















Wwps - Doedd hi ddim yn hapus gwneud twat mas o'i hunain jyst unwaith!















Dwi'n meddwl bod Alistair Lawson yw fy hoff.. Dyn gyda BANNER UNDEB ar ei broffil defnyddio gair NATIONALIST fel sarhad.. Be ffyc yn y byd! 'My nationalism is the right kind of nationalism you stupid Welsh, Scottish and Irish people.."

Dw i'n anobeithiol yn llwyr. Sut mae'n posib casau ieithoedd..!! Rhywbeth fel,  "Ffyc me bois, dwi'n mynd cicio crap mas o'r geiriadur yma, mae'n cymryd y pis mas o fi ac fy ffrindiau monoglot..""


Mae pob iaith yn y byd yr un mor bwysig.. Pob iaith. Dwi'n siarad 2. Dwi'n cefnogi 6500.

800 mlynedd ac er gwaethaf pawb a phopeth dyn ni'n yma o hyd...

*Ymerodraeth Seisnig, nid Prydeining. Roedd Cymru y colony cyntaf ac, yn anffodus, yr olaf.

Monday, 11 July 2016

Ewro 2016 - Fy Marn

Wel, roedd hwn mis gwych... Diolch i'r tim genedlaethol pel droed am rhoi cyfle i ni gyd i ddathlu Cymru..
Wna i ddim yn siarad am y gemau, neu chwaraewyr yma. Digon o bobl wedi sgwennu digon o stwff am hwn, ond roedd Ewro 2016 yn fwy bwysig na jyst pel-droed.. Roedd ddechrau o rhywbeth.... Falle Cymru wedi deffro (o'r diwedd!)..

Pel-droed yw'r chwaraeon o'r byd. Dim dadl amdano fe. A dyma Chymru dangos yr byd ein bod ni'n digon cryf i sefyll ar ein hun... Ystyriedwch hyn... Yn 2016 Cymru chwarae pel-droed ar yr un lefel fel Yr Almaen. Gwell na Yr Eidal, Sbaen, Rwsia, Lloegr. Mae byd wedi dysgu am Gymru yn y fis diwethaf. Mae byd yn deall ein bod ni'n gallu gwneud unrhywbeth am ein hunain... Wel, pobman eithrio Cymru.

Ro'n ni'n obsessed gyda rygbi.... Pam? Dwi'n gweithio yn rygbi, dwi'n meddwl mae'n chwaraeon da, ond yn gymharu i bel-droed mae'n dim ond atgoffa nostalgic o'r Ymerodraeth  Lloegr... Mae'n amhosib i tyfu gwlad cryf os popeth dal yn gymharu i Loegr, ac mae hynny'n beyh yw rygbi. Cyfle i guro Lloegr. Curo Lloegr ar rygbi gwych. Dyw pawb yn Ewrop, America neu Asia dim yn gofal... Byddwn ni'n hapus i fyw mewn bubble fel hyn, neu dylen ni trio anelu'n uwch? Cymru gallu gwneud unrhywbeth ein bod ni'n moyn... Unrhywbeth....


23 peldroedwyr o Gymru wedi dangos ein bod ni'n belong on the world stage...   Ond, bydd Llywodraeth Cymru dal yn gorfod gofyn San Steffan am y hawl i wneud pethe yng Nghymru. Yn 2016 mae'n hollol hurt. Bydd Ashley Williams derbyn hyn? Dim siawns. Deffro Cymru, sefyll lan. Falle wnaeth Edward Longshanks dechrau broses wnaeth gwneud i ni meddwl ein bod ni'n angen Prydain, ac, yn anffodus miloedd o Gymry wedi credu ein bod ni'n rhy dwp i lywodraethu ein gwlad... Wel, i fi, Bale, Ramsey, Allen et al wedi dangos i ni gyd digon yw digon...

Bydd plant yng Nghymru dysgu am Ewro 2016 yn ysgol yn y dyfodol?? Roedd e'n y ddechrau o rhywbeth? Neu, dim ond tim da chwarae da..?? It's up to us.




Sunday, 14 February 2016

Agwedd Siaradwyr Saesneg i Ieithoedd Prydeinig??

Roedd un cwestiwn wedi poeni fi am amser hir. Ers cyn penderfynais i ddechrau dysgu'r iaith. Pam siaradwyr Saesneg yn unig casau ieithoedd arall? Yn enwedig ieithoedd Prydeinig arall.

Dyw ieithoedd ddim yn brifo unrhyw un. Dyw ieithoedd ddim yn dechrau rhyfeloedd. Dyw ieithoedd ddim yn gorwedd. Mae pobl sy'n defnyddio nhw gwneud hyn, nage ieithoedd!

Wel, ar ol sgwrs gyda fy ngwraig heddiw, falle dwi'n deall tipyn bach mwy amdano fe nawr.

(Eglurhad bach am fy mhriodas:
Cyn 2015 roedd fy ngwraig cefnogwr mawr o'r syniad magu ein mab yn Saesneg a Chymraeg. Roedd hi'n hapus clywed Iwan siarad stwff yn Gymraeg, a gweld fi siarad gwell (yn araf). Wedyn, (amongst various other problems) roedd gallu 'da fi i siarad wrtho fe heb defnyddio Saesneg. Roedd hyn problem. Yn sydyn, oedd hi ddim yn hapus achos wnaeth hi ddim yn deall ein sgwrsiau.)

Wel, heddiw o'n i'n siarad am dysgu tipyn bach o Gaeleg. Wnaeth ei ymateb hi gwneud rhywbeth glir yn fy meddwl i.

Welodd hi gwefan Learn Gaelic ar ein sgrin cyfrifiadur.

Fy ngwraig: "Are you thinking about learning Gaelic now?"
Fi: "Yeah, maybe."
Fy ngwraig: "Why?"
Fi: "I'm interested in our native languages and cultures. I'd love to be able to have at least basic conversation in all of them."
Fy ngwraig: "But wouldn't it be better to learn a more useful language, like Spanish?"
Fi: "Why not? And, Spanish hasn't ever been actively persecuted by the goverment of a different country as far as I remember. Plus, I don't plan on going to Spain anytime soon."
Fy ngwraig:(aggressively)  "I hate it when you do this. You need to remember that I'm English and your son is more English than Welsh."


Roedd y ffaith wnaeth hi gwneud linc rhwng British Empire ac ei hun y peth mwyaf diddorol i fi  Pam?   Ro'n i ddim yn criticise y Sais, neu Llywodraeth San Steffan, neu Loegr. Jyst trio esbonio pam mod i'n mwy diddordeb yng Nghaeleg na Sbaeneg. Wnaeth hi deall sgwrs yma fel attack ar ei gwlad ac ei iaith. Roedd e ddim.

Pam wnaeth hi mynd ar yr amddiffyn mor glou? Ie, oce, falle roedd sylw am persecution tipyn bach o cheap shot ond dwi ddim yn deall o ble welodd hi linc rhwng hyn ac y ffaith ei bod hi'n Saesnes.

Ar ol meddwl amdano fe, cofiais i pryd mae hi'n mynd ymysodol. 1) Pryd mae hi'n anghywir, 2) Pryd mae hi'n euog, 3) Pryd mae hi'n teimlo embaras neu  4) pryd mod i'n behafio fel twat.

Roedd hi ddim yn anghywir am unrhywbeth yma.

Felly, oes rheswm pam lot o siaradwyr Saesneg swnio anti ieithoedd arall achos mae nhw'n teimlo euog, neu embaras?


Neu, achos mod i'n twat mawr???

Sunday, 31 January 2016

Awr Y Dysgwyr - Wythnos Cyntaf - DIOLCH!!

Wel, roedd wythnos cyntaf #aydysgwyr lot gwell na wnes i feddwl oedd posib.
Os mod i'n honest, o'n i'n disgwyl spectacular failure, fel pob syniad arall sydd wedi dechrau yn fy mhen, ond dwi'n siwr bod Twitter gallu chwarae rol pwysig iawn yn tyfu'r iaith ac yn gwneud cyfleoedd am ddysgwyr ymarfer eu sgiliau Cymraeg.

Stats:

#aydysgwyr


Roedd 331 twits defnyddio #aydysgwyr Nos Lun diwethaf.
110 'original tweets'
34 @ negeseuon
187 AD

Dwi ddim yn deall stats yn rhy da, ond, edrych fel roedd posib bod #aydysgwyr mynd i 100,000 cyfrif Twitter.

Roedd potential timeline delivery - 450,000 pobl. Ie, wrth gwrs oedd hyn 'best case scenario' ond waw!







Beth am gyfrif @AwrYDysgwyr te:


1 wythnos:

197 twîts.

48,000 Tweet impressions.

2893 ymweldwyr.

304 dilynwyr.




Sai'n deall popeth am cyfryngau cymdeithasol a dwi'n deall llai am y Gymraeg ond dwi'n gwybod hyn - Twitter gallu helpu dysgwyr a'r iaith.

Saturday, 16 January 2016

Awr Y Dysgwyr

Oce - Roedd 1 blog yn 12 mis perfformiad siomedig.


Wna i ddim yn siarad am pam achos mae'n dim byd i wneud gyda'r iaith.

Dwi'n nol nawr - a, fel arfer, gyda syniad ffordd hir mas o fy nghynghrair...

Ar Twitter dwi'n dilyn Yr Awr Gymraeg (@yrawrgymraeg #yagym) - Dwi wedi wastad meddwl bydd rhywbeth fel hyn am ddysgwyr yn defnyddiol iawn. twitter yw'r resource mod i'n defnyddio mwyaf. Mae'n hawdd iawn gofyn cwestiwn am yr iaith i fy dilynwyr. Ar ol cael sgwrs twitter gyda Llinos (@wenfro  @Celtes_Cymru) a gwrando i rhaglen Taro'r Post ar Radio Cymru wnes i ddarganfod fy nghymhelliant tyfu.

Felly dyna ni - Awr Y Dysgwyr

1 awr / wythnos. #aydysgwyr @AwrYDysgwyr   - Nos Lun (9-10) ar hyn o bryd.

Dilynwch ac AD Plis!


Falle, bydd hyn helpu rhywun rhywle.

Neu falle dim!


Sunday, 26 July 2015

Dwi'n Nol. Wel, falle.

Wel, nid yw hyn hawdd i sgwennu. (Ie, oce, pwynt teg - nid yw unrhywbeth yn Gymraeg hawdd i sgwennu i fi). Mae'n posib eich bod chi'n gweld dwi wedi bod yn dawel iawn yn 2015. Ar Twitter ac ar fy mlog. Mae'n gywir i ddweud mod i'n wedi colli tipyn bach o gymhelliant ers Mis Ionawr. Mae fy mywyd bersonol (wel, fy mhriodas rili) wedi mynd reit lawr y shitter. Roedd misoedd rhwng Ebrill a Mehefin yn gwaethaf, ond, nawr mae'n disgwyl fel stwff dechrau i gael gwell.

Yn anfoddus mae hyn wedi cael effaith negatif ar Cymraeg yn ein tŷ. Neu, falle roedd fy overwhelming desire i siarad yr iaith gyda Iwan un o'r problemau. Ond, credu fi, roedd lot o broblemau yn fwy bwysig na Chymraeg neu Saesneg.

(* Mae'n bwysig iawn deall bod post natal depression seriys gyda fy ngwraig)

Wnaeth fy ngwraig dechrau resent Iwan a fi gwylio stwff fel Cyw yn y bore a siarad gyda'n gilydd yn Gymraeg.  Dwi'n dal yn gwneud oce. Stwff wedi aros yn fy mhen. Ond Iwan, wel mae'n stori wahanol. Mae e'n clyfar. Mae e'n wrth ei fodd siarad. Mae Saesneg ym mhob man, felly bydd e'n dewis Saesneg.

Mae fy ngwraig a fi wedi gwneud lot o siarad. Wastad yn Saesneg. Pryd Iwan mynd i nursery bydd e'n clywed dim ond Saesneg. Mae ei ffrindiau siarad Saesneg. Ei deulu siarad Saesneg. Ac wedyn, dyma fi, trio i siarad Cymraeg. Fighting yn erbyn llanw overwhelming o Saesneg. A fy ngwraig wedi cymryd teledu bant o fi, felly nawr, ei deledu siarad Saesneg hefyd.

Wna i ddal ati ond, falle dwi wedi dysgu rhywbeth yma. Trio magu eich plant i siarad 2 iaith yw anodd am rhieni (yn enwedig pan 1 yn unig siarad yr ail iaith.)

1. I'r rhiant dwyieithog -  mae'n bwysig sylweddoli bod, weithiau, eich cymar teimlo left out. I ddechrau falle mae nhw'n wrth eu bodd clywed eu blant siarad 2 iaith, ond, pryd eu blant dechrau siarad sgwrs yn yr ail iaith mae'n anodd iddyn nhw.

2. I'r rhiant uniaith - mae'n bwysig i gofio mae'n amhosib i wneud hyn heb eich cefnogaeth. (Yn enwedig pan eu bod nhw'n byw mewn gwlad gyda dominant language fel Saesneg.) Amhosib.   Eich cymar angen eich cefnogaeth. Eich plant angen eich cefnogaeth. Ie, mae'n galed, ond mae'n cyfle i rhoi rhywbeth arbenning i eich plant.

Wel, mae'n Gorffenaf 26 heno. Dwi'n mynd ailddechrau gwersau nos fory. Gobeithio bydd popeth yn iawn..

Friday, 6 February 2015

16-21

Oce. Cymru wedi colli i Loegr.

Wna i ddim yn defnyddio fy mlog i siarad am y gem. Digon o rygbi 'da fi ar waith, ond ers dechrau dysgu'r iaith fy nheimladau i ganlyniadau tim genedlaethol wedi newid.

Cyn 2012 'o'n i'n crac iawn os Cymru colli. Ac yn enwedig os wnaeth Cymru colli i Loegr. Heno, dwi'n siomedig. Siomedig ar ol gwylio Cymru chwarae rwtsh.  Ond, jyst siomedig. Dim yn grac.

Pam?

Wel, a:) Roedd Lloegr y tim well ar y nos, felly chwarae teg iddyn nhw, ond

b) Cyn dechrau Cymraeg, wnes i ddefnyddio chwaraeon fel modd i ddangos o'n i'n Cymro.. Dwi ddim yn Gymro rili, hanner o fy ngwaed yw Saes. (Dwi wedi byth yn teimlo fel Saeson, ond mae'n ffaith.)  Felly, pryd oedd Cymru yn golli teimlais i gutted achos oedd chwareon yr unig modd roedd posib i fi i fod Cymro.

Nawr, dwi'n derbyn canlyniadau siomedig yn fwy hawdd. Pam. Fel siaradwr Cymraeg (ie, oce, falle dim cweit, ond, digon agos) dwi ddim yn gweld canlyniadau o dimau genedlaethol yn yr un modd. Nid yw chwaraeon yn mor bwysig yn y grand scheme of things/

Wedodd ffrindiau (Cymraes) i fi heno: "Stop being so mature about this!"

Roedd ymateb o fi: " I want Wales to be a strong nation, in sport yes, but in general. Part of that means we need to get over the obsession with the English."

Dwi'n moyn gweld Cymru fel gwlad annibynnol, hyderus a chryf. Pan bydd hyn yn digwydd bydd y Saeson ein ffrindiau agosaf.  Nid yw guro Lloegr ar rygbi (neu pel-droed) popeth. Nes pawb yng Nghymru deall hyn bydd ein gwlad byth yn symud ymlaen. Ddylai Cymru ddim yn rely ar canlyniadau chwareon i ddangos ein cryfder.

Wna i dderbyn unrhyw canlyniad os Cymru cerdded ar y gae fel gwlad o statws cyfartal.   .

Sunday, 18 January 2015

Crio Fel Babi Achos o Gymraeg!

Pryd wnes i wneud penderfyniad dysgu Cymraeg, wnes i wybod bydde i'n gwneud rhai o pethe.

Fel -   teimlo grêt os gallu gyda fi gwneud unrhywbeth yn gywir.
      -  neu, swnio fel twat.
      -  neu, cael dyddiau pryd popeth teimlo yn hawdd.
      - neu, cael dyddiau fel popeth yn amhosib.

Wnes i fyth yn meddwl bod dysgu'r iaith bydde gwneud i fi crio.

Ond heddiw, wnes i grio fel babi achos o Gymraeg. A dyma pham:

Wnaethon ni'n mynd i barti penblwydd o fy nain heddiw. (Mae hi'n 97 oed fory, chwarae teg!). Roedd fy nheulu i gyd yno ar tŷ Nain.
Iwan (canol) ac ei gefndryd Rhys a Rowan ar tŷ nain

Mewn ystafell cefn, roedd Iwan, fi a fy nhad siarad. O'n i'n siarad am sut mae Iwan gwneud gwych gyda ei Gymraeg. Roedd sosbannau ar shilff ben tân. Wnaeth fy nhadcu gwneud nhw yn y 1940au. (Roedd e'n o Sir Gâr, a chefnogwr Llanelli).

Wedais i "Pa lliw yw y sosban Iwan?"
"Gold"
" Oce, beth yw gold yn Gymraeg?"
"Aur"

Ar y wyneb, mae'n sgwrs diflas iawn. Dim ond sgwrs am lliwiau bod debyg iawn i sgwrsiau gyda phlant ym mhob man. 2 awr ar ol, o'n i'n eistedd yn fy ystafell fyw crio.

Wnaeth fy nhadcu marw yn 1977. Cyn o'n i'n geni. Wnes i fyth yn nabod fy nhadcu. Roedd e'n siaradwr Cymraeg iaith cyntaf ac wnaeth e eistedd mewn ei ystafell cefn. Wastad. Roedd "front room for best". Nawr fy Nain defnyddio y ystafell ffrynt. Wnes i sylweddoli bod dim berson wedi siarad Cymraeg yn y stafell yma ers 1977.

Dwi ddim yn gwybod am nefoed . Sai'n gwybod os Tadcu gallu gweld neu chlywed Iwan a fi. (Dwi'n siwr os mae fe'n gallu clywed ei fod e'n banging ei ben yn erbyn wal fel dwi'n gwneud pob camgymeriad yn y llyfr)

Wnes i fyth yn nabod fy Nhadcu, ond wnes i deimlo mor agos iddo fe heddiw. Ac mae hynny'n pam mae iaith gwneud i fi crio fel babi.

Wednesday, 14 January 2015

Effaith o 2 ieithoedd ar ol 29 mis.

Welodd Iwan y Health Visitor heddiw am ei gyfarfod datblygiad,  Wnaeth e yn dda iawn. Above average ym mhopeth. Felly o'n i'n gofyn fy hun pam? Mae'n simplistic dweud mae'n achos o Gymraeg, ond dwi'n siwr bod Cymraeg wedi cael effaith positif ar ei ddatblygiad.

Pryd oedd e'n gwneud ei lliwiau, wnaeth e newid i Gymraeg hefyd. Dim rhesymau, jyst achos mae fe'n gallu wneud e! Mae fe'n gwybod ei fod e'n siarad dwy iaith. Mae e'n dechrau sylweddoli bod lot o blant arall ddim yn siarad 2 iaith hefyd.

Wnaethon ni'n gwneud penderfyniad trio siarad 2 ieithoedd wrtho fe o'r dydd cyntaf o'i fywyd. Roedd y peth cyntaf wedais i wrtho fe yn Gymraeg. Wnaethon ni'n darllen lot o stwff amdano fe cyn gwneud penderfyniad.  Dwi'n gallu dweud nawr, ar ol 2 mlynedd, roedd 1 o'r penderfyniadau gorau mae'n posib gwneud.

Roedd un problem. Roedd y ddwy o ni siaradwyr Saesneg yn unig. Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ym Mis Mehefin 2012, roedd Iwan born ym Mis Awst 2012.  O'n i'n hollol crap. (Dwi'n dal yn crap nawr.) Wnes i feddwl (yn fwy na unwaith) bod falle o'n i'n holding back ei ddatblygiad achos o'n i'n rwtsh, ond, emphatically, nid yw hyn yn wir.

Mae ei Saesneg yn gryf. Cryf iawn.  Bydd Saesneg ei iaith cyntaf, ond siarad ail iaith dim yn gael effaith negatif ar ei iaith cyntaf. Mae fe'n gallu deall bod 2 enwau gyda stwff. Mae'n syml iawn yn ei ben! Nid yw ei fam a thad yn glyfar iawn. Oce, dy'n ni ddim yn dwp, ond, os ni'n gallu magu plant fel hyn, unrhyw un gallu gwneud e!

Wna i dweud i unrhyw un sy'n cael babi. Beth am trio 2 ieithoedd. Bydd yr ail iaith gwneud dim ond helpu yr iaith cyntaf.  Clywed eich plant dweud rhywbeth fel "there's 4 frogs" yw gwych. Bydd clywed "there's a frog Mummy, broga dadi" neu "Mynd o dan y bont - Mummy says bridge" yn chwythu eich meddwl!

Thursday, 8 January 2015

Treiglad Cyntaf Iwan

Dwi'n meddwl bod pob rhieni dathlu pryd eu plentyn gwneud rhywbeth i'r tro cyntaf.

Felly, heddiw o'n i'n dathlu. Wnaeth Iwan gwneud ei treiglad yn gywir cyntaf heddiw.

 "Mae James yn goch" yw'r brawddeg wnai i fyth yn anghofio.

"Beth wedaist ti? Mae James yn coch?"

"Yn goch Dadi"

Wnaeth Tomos y Tanc helpu fi dysgu Saesneg pryd o'n i'n iau, mae fe'n fy helpu fi a fy mab dysgu Cymraeg nawr.


Mae popeth yn mor hawdd iddo fe. Dyw e ddim yn deall pam mod i'n gwneud yr iaith swnio mor anodd!

Friday, 12 December 2014

Stwff bod dal yn dryslyd i fi


Gwylio fy mab dysgu sut i siarad yn diddorol iawn i fi. Mae plant yn lot gwell dysgu na oedolion achos so nhw'n cwestiwn unrhywbeth.

Bydd Iwan dweud "count Mummy, cyfri Dadi" neu "The car's red Mummy, car yn goch Dadi"  heb gofyn pam mae'n wahanol. Fel oedolion mae'n mwy anodd gwneud hyn. Rydyn ni'n cwestiwn popeth. "Pam yw hwn?"

Wnes i wneud penderfyniad trio dysgu fel plentyn. Jyst gwrando a copy. Fel mae'n digwydd, mae rhai o pethe bod pobl meddwl amhosib (treigladau) yn fwy hawdd y ffordd yma. Dwi ddim yn deall wastad pam dwi'n newid c - g, neu c - ch ond pawb arall gwneud e, felly bydda i'n hefyd. Dwi'n meddwl mod i'n ocê gyda threigladau, a gwell na os o'n i'n eistedd yn ystafell class dysgu bwrdd treigladau. ( mutation table??)

Ond, er mod i'n trio dysgu heb meddwl amdano fe, mae'n 2/3 pethe gwneud dim sense i fi. Dim sense o gwbl, ac sai'n gweld yr atebion ar google, felly, dwi'n gofyn i chi gyd!

1 - 10 munud.
      Pam yw Deg munud DENG munud weithiau? Dwi'n clywed hyn ar Radio Cymru neu S4C, ond sai'n deall pryd dweud deg a phryd deng.

2. - i, am, dros, ar gyfer - for (Mwy dryslyd na unrhyw treiglad i fi!)
      Dwi'n gwybod taw Saesneg sydd ar fai achos 1 gair (for) defnyddio llawer ffordd wahanol, ond dim cliw 'da fi pryd dweud i, neu am, neu dros neu ar gyfer... Dwi'n clywed dros pryd mod i'n gwrando chwaraeon. "Cais dros Gymru." Ond, fel arfer, dwi'n jyst defnyddio 'i'.

3 - gwrywaidd / benywaidd
     Bydda i'n trio fy nghorau ond mae'n blydi anodd iawn fel siaradwr Saesneg! Un peth bod gwneud i fi crafu fy mhen - Pam yw pwyntiau yn rygbi gwrywaidd ond goliau yn pel-droed fenywaidd. PAM? Mae hyn gwneud llai sense i fi na Physics!!! Sut mae'n posib i rygbi a phel-droed i fod yn wahanol. Mae dwy chwaraeon dod mas o'r 1 gem nol yn y ganrif 19ed....

4 - Mae pawb yn dweud bod Cymraeg yn 'phonetic', ond dwi'n dweud stwff unphonetically yn llwyr. Fel bwyta a bwyd (bitta a boyd yn swn Saesneg). Pa un yn gywir?

4 - cyfri - Dwi'n gallu get by defnyddio "un deg un, un deg dau etc" achos dyw  dau ar bymtheg neu deunaw byth yn mynd i aros yn fy mhen!


Diolch i unrhyw un sy'n gallu helpu...!

Thursday, 4 December 2014

Pethau Bychain

Mae pethau bychain yn bwysig iawn i fi. Y pethau bychain mod i'n gwneud heb meddwl.
Dwi ddim yn cymryd amser hir gwneud dadansoddi o fy nhysgu, ond weithiau dwi'n gwneud rhywbeth sy'n gwneud i fi sylweddoli mod i'n symud ymlaen.

Pryd dwi'n hala e-bost gwaith i unrhyw un yng Nghymru wna i trio sgwennu yn 2 iaith. Cymraeg yn gyntaf os dwi'n gwybod y darllenwr siarad, neu Saesneg yn gyntaf os dwi ddim yn gwybod.

Fel arfer wna i ddweud rhywbeth fel "Dwi'n dysgu'r iaith" yn y frawddeg cyntaf. Mae'n rhywbeth fel security net. Rhywbeth fel warning o'r gramadeg ofnadwy bod mynd i ddilyn mewn y e-bost.

Heddiw, o'n i'n sgwennu e-bost hir iawn i rhywun... Os mod i'n onest, roedd dim siawns o fi trio sgwennu yn Gymraeg rhywbeth oedd cymryd 60 munud sgwennu yn Saesneg. Felly, ar y ddiwedd, wnes i ddweud
'er mod i'n sgwennu yn Saesneg, wna i hapus ymateb yn Gymraeg hefyd."

Wnes i press y botwm a hala y neges i mewn cyberspace. Panic. "O shit, wnes i ddim yn dweud mod i'n dysgwr."  Wedyn, o'n i'n sylweddoli oedd hyn rhywbeth da. Falle dwi'n dechrau meddwl o fy hun llai o'r dysgwr. Falle wna i ddechrau sgwennu Cymraeg yn gyntaf pob e-bost nawr.

Neu, falle wnes i anghofio a dwi'n jyst siarad bolycs.

Sunday, 30 November 2014

Blog Swyddle

Ro'n i'n gofyn gan gwefan Swyddle.com i rhoi fy marn i am defnyddio social media fel dysgwr. Wrth cwrs o'n i'n hapus i wneud e, felly, dyna ni! Pwy wyt ti? “Dave ydw i. Dwi’n 35 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerloyw gyda fy ngwraig a fy mab. Dwi’n gweithio dros Glwb Rygbi Caerwrangon. Wnes i ddechrau dysgu’r iaith yn Haf 2012.” “ Be yw dy rheswm am ddysgu Cymraeg? “Mae 3 rheswm gyda fi. 1) Gwnaethom ni benderfyniad i rhoi 2 iaith i’n mab achos ry’n ni’n credu bydd hyn yn ei helpu yn ei fywyd. O’n i’n ofnadwy ar ieithoedd yn yr ysgol, felly roedd yn rhaid ifi ddewis yr unig iaith ro’n i moyn siarad – Cymraeg. 2) roedd tadcu yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ond wnaeth e ddim dysgu fy nhad sut i siarad achos ” it will only hold you back.” Dwi’n meddwl wnaeth e wneud camgymeriad mawr yn 1946, a dwi moyn gwneud rhywbeth amdano fe. 3) Dwi’n teimlo fel Cymro. Dwi wastad wedi teimlo fel Cymro. Pryd o’n i’n 6 wnes i ddweud “I’m Welsh.” ond roeddwn i’n hanner Saes. Dwi’n byw yn Lloegr. Dwi’n siarad Saesneg. Dwi’n swnio fel Saes. O’n i’n “fed up” o bobl yn dweud pethau fel “you’re not Welsh, your English.” Wnes i feddwl bydd dysgu’r iaith yn helpu fi ddod o hyd fy hunaniaeth fel Cymro. Dwi moyn gweithio yn y Gymraeg yn y pen draw.” Wyt ti’n credu bod y byd ‘cyber’ yn galanogol i ddysgwyr? Be am ffrwd Cymuned Swyddle? “Mae social media yn bwysig iawn ar fy nhaith o ddysgu. Mae’n bosib i fi cael sgwrs yn Gymraeg bob dydd. Mae’n help mawr gyda fy hyder, ac mae’n ffordd hawdd o gael ateb i gwestiynau. Mae Swyddle yn defnyddiol iawn achos mae nhw’n AD bob tweet, felly lot o bobl yn darllen fy Nghymraeg!” Pa bryderon/obeithion sydd gyda thi am dy ddyfodol fel siaradwr a dyfodol yr iaith? “Fy ngobaith i yw y bydd pobl yn deall mae pobl ifanc yw dyfodol yr iaith, yn enwedig y Cymry ail iaith. Mewn ysgolion Saseneg iaith cyntaf, mae angen i’r wers Gymraeg fod yn uchafbwynt yr wythnos. Fel oedolyn sy’n dysgu, ‘da ni’n cael ei’n hannog i beidio poeni gormod am dreigliadau ac yn y blaen. Dwi’n poeni fod disgyblion ffrwd Saesneg yn dysgu gormod o ramadeg yn hytrach na siarad am bynciau sydd o ddiddordeb iddynt.”

Thursday, 16 October 2014

Diwrnod Shwmae Su'mae!

Roedd diwrnod Shwmae Su'mae ddoe, felly dyma Iwan  rho gynnig arni.

Cofiwch, mae Iwan cael fi fel ei athro felly dyw e ddim yn sefyll siawns rili!



Mae'n gwneud i fi tipyn bach drist achos dwi'n gwybod mae gallu gyda fe siarad Cymraeg gyda dim problemau ond bydd e'n limited achos o fi.


Monday, 6 October 2014

Dysgu'r Iaith? Mae'n Debyg Iawn Cefnogi Tim Genedlaethol.

Aros gyda fi ar hyn nawr! Bydda i'n trio esbonio sut mae fy nhaith o ddysgu yn debyg iawn i fy myw fel cefnogwr o Gymru. Mae'n cyffrous, mae'n rhywstredig, mae'n lot o fwynhau, mae'n poenus, mae'n gwneud i fi falch, mae'n gwneud i fi grac, mae'n gwneud i fi gweiddi, mae'n gwneud i fi rhegi. Dyw mae fy ngwraig i ddim yn deall pam dwi'n cymryd gormod o amser siarad amdano fe.

Mae teimladau pryd mod i'n gwneud gwers yn hollol yr un peth i'r teimladau tra mod i'n gwylio (neu, fel arfer gwrando achos o Sky) Cymru.

1. Pwyntiau yn uchel:

Craig Bellamy v Yr Eidal = Siarad brawddeg yn gwers a chofio pob gair, pob treigladau! Ie, ok, falle fydda'i ddim yn rhedeg o gwmpas y ystafell byw chwifio fy mriechiau fel madman a gweiddi "Yaaaaaaar, ffyc, yeaaaaaaaaahhhhhhh, Bellamy, Yeeeah" a wedyn chwpla gyda sleid ar y llawr tra mod i'n gwneud gwers.  Ond, dwi'n gwneud fistpump a tipyn bach o "Yes" neu weithiau, "Fucking come on" pryd dwi'n gwneud rhywbeth da!

Gareth Bale v Andorra = Dweud rhywbeth anghywir, ond sylweddoli ac wedyn dweud y peth gywir. Mae enw - getting away with it ar ol perfformiad shit!




Hal Robson Kanu v Yr Alban = Ail-wneud rhywbeth ar ol 2/3 mis a chofio popeth. Ie, dylai gwneud stwff fel hyn yn gywir, ond mae'n dal yn teimo gwych. Jyst fel, ie, dylai Cymru yn guro Yr Alban, ond roedd dal yn teimo gwych pryd y pel taro'r cefn o'r net!




2.  Cyn gem:

Credu bydd Cymru yn ennill gem - Credu mod i'n gwneud popeth yn gywir  yn y gwers heno.

Credu bydd Cymru yn qualify - Credu bydda i'n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae'n posib, ond, chwarae teg mae'n blydi unlikely.

Y sense of impending embarrasment - (San Marino, Liechtenstein neu Andorra oddi cartref) - Dyma fi cyn dechrau siarad i rhywun. Mae teimladau - pam y ffyc ydw i'n gwneud hyn. Dim byd yn dda gallu digwydd yma.
Dim cliw 'da fi weithau

Trio deall tacteg Chris Coleman - Trio deall treigladau. Ateb = mae'n gwell peidio feddwl am y peth!


3. Pwyntiau isel

Robert Earnshaw v Lloegr = Gwneud camgymeriadau ar y gair olaf o frawddeg. Jyst stick it in the fucking net Dave, mae'n mwy anodd i gael e anghywir!

Rwsia 2003 - Siarad i rhywun ond, gwneud camgymeriadau dwp. Dwi wedi gwneud y gwaith galed. Dwi'n gwneud gwell na wnes i feddwl yn posib, ond, dwi'n dal yn ffyc it up.

Paul Bodin - Cyfrifiadur yn dorri tra mod i'n gwneud gwers. Aaaaaarrrrrrrrrrrrrgggggggghhhhhhh.

Moldova 3-2 Cymru - Weithiau dwi'n jyst shit.



Ond, mae un peth yn wahanol i gefnogi Cymru. Yn peth bwysig. Yn peth bod gwneud cefnogi y tim genedlaethol mor galed.

Dim gair bwysig byth yn tynu mas o'r gwers 5 diwrnod cyn!

Sunday, 21 September 2014

Stwff mod i ddim yn gwneud yn Saesneg!

O'n i'n siarad am gwleidyddiaeth gyda rhywun heno. Nawr, dwi'n gwybod llai am gwleidyddiaeth na dwi'n gwybod am yr iaith, ond wnes i ddechrau meddwl mod i'n gwneud lot o stwff yn Gymraeg mod i'n ddim yn gwneud yn Saesneg. Rili, dwi'n fel berson wahanol yn llwyr yn Gymraeg.

Dyma list o stwff dwi'n gwneud yn Gymraeg yn unig.

1. Rhoi shit am gwleidyddiaeth.
2. Mynd mewn ystafell a siarad i bobl dwi ddim yn nabod.
3. Dechrau sgwrs.
4. Gwneud twat mas o fy hun.
5. Teimlo hapus pan rhywun dwi ddim yn nabod siarad i fi.
6. Sgwennu blog.
7. Defnyddio Twitter.
8. Hala syniad i bobl, neu rhoi feedback.
9. Moyn pobl arall clywed fy marn i 

Dwi'n siwr mod i'n wedi anghofio lot o stwff hefyd, ond mae hyn yn blog 5 munud.

Bydda i'n dweud hyn i monoglots. Dysgu iaith newydd ( ie, i fi, mae iaith Gymraeg yw'r gorau, ond  dysgu unrhyw iaith), mae'n lot mwy na jyst her. Mae'n gwneud wahaniaeth i fy myw. Well, so long as no random twat starts talking to me in English anyway!

Wednesday, 27 August 2014

Sgorio

Reit te, Sgorio. Mae hyn wedi eistedd mewn fy draffts i 8 diwrnod nawr, a dwi'n dal yn ansicr beth dwi'n trio dweud.

Mae pawb yng Nghymru gwybod am y penderfyniad S4C i scrap rhaglen Sgorio Nos Lun, a newid gemau yn fyw i Dyddiau Sul tymor yma. Mae'n anodd iawn i fi rant yn Gymraeg ond dwi'n mynd trio yma. Pan dwi'n crac dw i'n anghofio popeth mod i'n gwybod am ieithoedd. (Mae hyn yn gywir yn Saesneg hefyd), ond "Annwyl S4C, ROEDD HYN YN PENDERFYNIAD DWP."


Dyma pam:

 Dwi'n dweud popeth yma fel cefnogwr  UGC, pel-droed Cymreig ac yr iaith.

1- Uwch Gynghrair Cymru.
Cofiwch, mae chwaraewyr yn semi-pro (anghofio YSN, so nhw'n cyfri). Semi-pro = gwaith ar Dydd Lun, ond, byddwn nhw'n gofyn taith o gwmpas Cymru, chwarae gem a dod nol. Byddwn nhw'n blino'n lan ar ol hyn. Ystyriad Caerfyrddin oddi cartref i Airbus, neu Cei Conna mynd i Bort Talbot? Taith hir cyn mynd nol i waith 10 awr ar ol. Falle bydd hyn yn stop chwaraewyr dod chwarae mewn y UGC. Yn y Gogledd mae'n lot o glwbiau Sais yn agos iawn. Dwi'n gallu clywed sgwrs nawr. "Sorry mate, I would play for you, but I can earn the same money at Stalybridge and I'll never have to spend Sunday's travelling."

2- Gwylio Teledu.

Mae pawb sy'n gwylio Sgorio wrth eu bodd pel-droed. Mae mwyaf o bobl cefnogi clwb mawr hefyd. Dydd Sadwrn, dim byd gwell na gwylio gem yn fyw a gweld sgoriau dod mewn ar yr un pryd. Dwi'n meddwl roedd llawer o pobl gwylio gem yn fyw jyst i weld sgoriau ar vidi printer yn Gymraeg. Mae hynny'n beth convinced fy ngwraig (cefnogwr Arsenal) gwylio gyda fi. Dyw hi ddim yn dysgu'r iaith, ond, mae iaith pel droed yn universal. Hefyd, Roedd y gem yr unig gem yn fyw ar teledu ar prynhawn Sadwrn. (Wel, legally) dwi'n nabod pobl yn Lloegr roedd sy'n gwylio, jyst achos "well, it's football isn't it." Beth yw ar teledu prynhawn Sul? Mae Uwch Gynghrair Lloegr. AR YR UN PRYD. Rili S4C, jyst pwy ych chi'n meddwl mynd newid Prestatyn v Y Rhyl ar blaen o Everton v Man City? Falle bydda i'n achos fyddi ddim yn rhoi fy arian i Murdoch, ond, who else?

Nos Lun - wnes i wylio bob wythnos. 30 munud o UGC, 30 munud o La Liga. Perffaith. Roedd hyn yn well na gem yn fyw! Ie, dwi'n deall falle Sky wedi codi price i La Liga, ond beth am Ligue 1 neu Serie A neu Portiwgal? Unrhyw pencampwriaeth yn y byd yn iawn! 

3- Yr Iaith.

Nid yw pawb yn cefnogwyr pel droed, ond, pawb sy'n gwylio S4C cefnogi'r iaith. Felly bydda i'n trio esbonio sut mae penderfyniad yma gallu effect yr iaith. Mae pawb yn wastad gofyn y cwestiwn. "Sut mae'n posib cael mwy o bobl defnyddio'r iaith?" neu "pobl ifanc gwybod Cymraeg ond, mae nhw'n dewis siarad Saesneg. Pam?" Wel, dyma fy marn i. Bydd pobl yn siarad am peth relevant iddo nhw. Mae pel droed yn relevant i lawer o pobl, ond mae'n predominantly yn Saesneg. Os 'ych chi'n gwneud pobl dewis rhwng gwylio UGC ac y Barclays Premier League, bydd 1 ennillwr yn unig. A chofiwch hyn, os mae BPL ennill, mae iaith Saesneg yn ennillwr hefyd. Gwylio yn Saesneg, siarad amdano fe yn Saesneg. Tymor diwethaf, roedd siawns ar gyfer Gymraeg ac Y Uwch Gynghrair Cymru. Nawr, sai'n siwr.