Thursday, 23 January 2014

Teimlo fel Bananaman

Mae na rywbeth gwych i fi am dysgu Cymraeg. Wel, na, chwarae teg ,mae na lot o pethau gwych am dysgu Cymraeg (neu unrhyw iaith rili). Bydda i'n trio (gyda fy ngeiriau limited iawn) sgwennu ar fy mlog i am mae rhai o'r stwff dwi wedi mwynhau ers dechrau.

Bydd unrhyw un pwy sy'n wedi darllen fy mlog i wybod dwi'n twat. Ond, dw i'n twat wahanol yn Gymraeg.

Mae 'Saesneg Dave' yn shy iawn, ac, tu allan o gwaith,  fydda'i ddim yn siarad gyda rhywun sa i'n gwybod. Byth. Ffaith. Y ysgol do'n i byth yn cael fy law i fyny. Wel, do'n i byth yn siarad gyda athrawon. Roedd yr un peth ar prifysgol, wnes i siarad i roughly 20 pobl... (ond, falle oedd hynny'n achos wnes i fynd i brifysgol ym Mhontypridd!?!) Fydda'i ddim yn ffonio pobl. Sai'n moyn pobl gwylio i fi, neu glywed fi, neu siarad i fi.. Dw i'n lwcus iawn bod fy ngwraig i ddechrau siarad i fi ar ein nos cyntaf, otherwise bydde i'n dal yn bod sefyll mewn y dafarn nawr! Dim problemau complex gyda fi, dw i'n jyst twat mawr.

Ond rhywbeth weird iawn yn digwydd i fi pan dwi'n trio i siarad yn Gymraeg. Bydda i'n siarad i bawb. Dw i'n hapus siarad. Dw i'n moyn siarad. Dw i'n mwynhau siarad. Bydda i'n gyrru 1 neu 2 awr i siarad gyda strangers. Dw i'n dechrau sgwrs!

 Mae'n fel dw i'n Eric o Bananaman, achos pan Dave siarad Cymraeg "an amazing transformation occurs."

No comments:

Post a Comment