Thursday, 24 April 2014

Cerddoriaeth Cymreig

Un o'r pethe gorau am ddysgu'r iaith yw gwrando i gerddoriaeth ar Radio Cymru. Nid achos pob can yn gwell na cherddoriaeth Saesneg (credu fi, mae rhai o fe total gash), ond achos mae'n gwneud i fi diddordeb yn cerddoriaeth unwaith eto.

Roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn i fi pan on i'n iau. O'n i'n mewn 2 bands ar yr un pryd, chwarae drwms i un a bass i'r eraill. Os wnes i feddwl roedd band yn shit, wnes i ddim yn siarad gyda phobl wnaeth sydd hoffi nhw! Ac yna, wnes i adael Prifysgol, gadael y bandiau a chael job.

Pan o'n i'n dechrau gwaith, wnes i stopped gwrando i gerddoriaeth newydd, ac yna wnes i stopped gwrando yn llwyr. Roedd yn fwy bwysig clywed newyddion teithio yn y bore!

Pan wnes i ddechrau gwrando i Radio Cymru, o'n i'n cynnig cyfle gwneud fy marn i am caneuon. Wnes i deimlo fel o'n i'n 16 unwaith eto! Nawr dwi'n gwybod lot o bandiau newydd. Mae rhai o nhw yn wych, mae rhai o nhw yn crap, ond dw i'n diddordeb. Mae rhai o caneuon gwneud sense i fi, ond nid yw hyn yn bwysig. Mae can da yn da yn unrhyw iaith. A hefyd, ers wnes i ddechrau dysgu'r iaith, dwi wedi cymryd y gitar allan o'r cwpwrdd unwaith eto!

Wel, nawr dwi wedi gwrando lot o gerddoriaeth o 90au unwaith eto hefyd. Mae'n doniol beth dw i'n meddwl amdano fe nawr, fel dyn o 34. Mae Super Furry Animals dal yn gret nawr. Bob can. Ond, sai'n deall pam o'n i'n bothered gyda Stereophonics. Mae'n dim ond yr un can unwaith eto ac unwaith eto ac unwaith eto! Rhoi Y Bandana neu Yr Eira i fi bob tro!

No comments:

Post a Comment