Tuesday, 17 June 2014

2 flynedd, 24 mis, 731 diwrnod (ond dal yn siarad fel twat!)

Wnes i sylweddoli fy mod i'n dysgu'r iaith i 2 flynedd nawr.

Ar ôl 1 flynedd wnes i deimlo fel dathlu.. " Da iawn Dave," wnes i ddweud i fy hun, "mae'n amser cyntaf dwi wedi cadw dysgu unrhyw iaith! Sai'n aros gweld beth dw i'n gallu dweud yn'r 12 mis nesa."

Wel, mae'n 12 mis ar ôl nawr a dwi ddim yn teimlo fel dathlu. Pam? Wel nawr dwi'n siwr bydda i'n stick at it. Dwywaith dwi wedi cymryd break o ddysgu. (6 wythnos a 4 wythnos) a phopeth wedi aros mewn fy mhen i. Dwi'n teimlo fel yr iaith yn everyday part of me nawr, fel Saesneg. Dwi ddim yn dathlu siarad Saesneg dwi'n jyst siarad, felly mae'n dechrau bod yn debyg gyda Chymraeg.

Ie ie, dwi'n dal yn siarad fel twat. Dwi'n dal yn gwneud cant o gamgymeriadau bob dydd, ac weithiau dwi'n rhwystredig iawn, ond roedd flwyddyn ddiwethaf fy nhatblygiad wedi bod yn fwy bwysig na roedd flwyddyn cyntaf.

Nawr - Brasil yn erbyn Mecsico

No comments:

Post a Comment