Rhwng nawr a Mis Awst 31 mae 12 diwrnod gwyliau gyda fi.
Mis Awst diwethaf wnes i fynd i Gymru. A - i brynnu llyfrau / gemau i Iwan a B - i ymarfer siarad heb becso am embarrassing fy ngwraig! Dwi'n moyn gwneud yr un peth eto, ond dwi'n hoffi mynd i le newydd rili.
Wel, mae'n rhwystredig achos dwi'n byw yn agos iawn i Gymru, ond trio dod o hyd lle i siarad (neu prynnu stwff) yn Gymraeg yn anodd iawn.
Dw i'n hapus gyrru 1 awr / 90 munud o Gaerloyw i ymweld siop Cymraeg bod yn werthu llyfrau plant.
Felly dyma cwestiwn - BLE?
Ble mae siopau Cymraeg yma? |
Dwi wedi bod i:
Siop Siarad yng Nghas-Gwent
Dalen Newydd yng Nghaerllion
Caban yng Nghaerdydd.
Unrhyw un gwybod siopau arall? Diolch
No comments:
Post a Comment