Mae pethau bychain yn bwysig iawn i fi. Y pethau bychain mod i'n gwneud heb meddwl.
Dwi ddim yn cymryd amser hir gwneud dadansoddi o fy nhysgu, ond weithiau dwi'n gwneud rhywbeth sy'n gwneud i fi sylweddoli mod i'n symud ymlaen.
Pryd dwi'n hala e-bost gwaith i unrhyw un yng Nghymru wna i trio sgwennu yn 2 iaith. Cymraeg yn gyntaf os dwi'n gwybod y darllenwr siarad, neu Saesneg yn gyntaf os dwi ddim yn gwybod.
Fel arfer wna i ddweud rhywbeth fel "Dwi'n dysgu'r iaith" yn y frawddeg cyntaf. Mae'n rhywbeth fel security net. Rhywbeth fel warning o'r gramadeg ofnadwy bod mynd i ddilyn mewn y e-bost.
Heddiw, o'n i'n sgwennu e-bost hir iawn i rhywun... Os mod i'n onest, roedd dim siawns o fi trio sgwennu yn Gymraeg rhywbeth oedd cymryd 60 munud sgwennu yn Saesneg. Felly, ar y ddiwedd, wnes i ddweud
'er mod i'n sgwennu yn Saesneg, wna i hapus ymateb yn Gymraeg hefyd."
Wnes i press y botwm a hala y neges i mewn cyberspace. Panic. "O shit, wnes i ddim yn dweud mod i'n dysgwr." Wedyn, o'n i'n sylweddoli oedd hyn rhywbeth da. Falle dwi'n dechrau meddwl o fy hun llai o'r dysgwr. Falle wna i ddechrau sgwennu Cymraeg yn gyntaf pob e-bost nawr.
Neu, falle wnes i anghofio a dwi'n jyst siarad bolycs.
No comments:
Post a Comment