Sunday 18 January 2015

Crio Fel Babi Achos o Gymraeg!

Pryd wnes i wneud penderfyniad dysgu Cymraeg, wnes i wybod bydde i'n gwneud rhai o pethe.

Fel -   teimlo grêt os gallu gyda fi gwneud unrhywbeth yn gywir.
      -  neu, swnio fel twat.
      -  neu, cael dyddiau pryd popeth teimlo yn hawdd.
      - neu, cael dyddiau fel popeth yn amhosib.

Wnes i fyth yn meddwl bod dysgu'r iaith bydde gwneud i fi crio.

Ond heddiw, wnes i grio fel babi achos o Gymraeg. A dyma pham:

Wnaethon ni'n mynd i barti penblwydd o fy nain heddiw. (Mae hi'n 97 oed fory, chwarae teg!). Roedd fy nheulu i gyd yno ar tŷ Nain.
Iwan (canol) ac ei gefndryd Rhys a Rowan ar tŷ nain

Mewn ystafell cefn, roedd Iwan, fi a fy nhad siarad. O'n i'n siarad am sut mae Iwan gwneud gwych gyda ei Gymraeg. Roedd sosbannau ar shilff ben tân. Wnaeth fy nhadcu gwneud nhw yn y 1940au. (Roedd e'n o Sir Gâr, a chefnogwr Llanelli).

Wedais i "Pa lliw yw y sosban Iwan?"
"Gold"
" Oce, beth yw gold yn Gymraeg?"
"Aur"

Ar y wyneb, mae'n sgwrs diflas iawn. Dim ond sgwrs am lliwiau bod debyg iawn i sgwrsiau gyda phlant ym mhob man. 2 awr ar ol, o'n i'n eistedd yn fy ystafell fyw crio.

Wnaeth fy nhadcu marw yn 1977. Cyn o'n i'n geni. Wnes i fyth yn nabod fy nhadcu. Roedd e'n siaradwr Cymraeg iaith cyntaf ac wnaeth e eistedd mewn ei ystafell cefn. Wastad. Roedd "front room for best". Nawr fy Nain defnyddio y ystafell ffrynt. Wnes i sylweddoli bod dim berson wedi siarad Cymraeg yn y stafell yma ers 1977.

Dwi ddim yn gwybod am nefoed . Sai'n gwybod os Tadcu gallu gweld neu chlywed Iwan a fi. (Dwi'n siwr os mae fe'n gallu clywed ei fod e'n banging ei ben yn erbyn wal fel dwi'n gwneud pob camgymeriad yn y llyfr)

Wnes i fyth yn nabod fy Nhadcu, ond wnes i deimlo mor agos iddo fe heddiw. Ac mae hynny'n pam mae iaith gwneud i fi crio fel babi.

Wednesday 14 January 2015

Effaith o 2 ieithoedd ar ol 29 mis.

Welodd Iwan y Health Visitor heddiw am ei gyfarfod datblygiad,  Wnaeth e yn dda iawn. Above average ym mhopeth. Felly o'n i'n gofyn fy hun pam? Mae'n simplistic dweud mae'n achos o Gymraeg, ond dwi'n siwr bod Cymraeg wedi cael effaith positif ar ei ddatblygiad.

Pryd oedd e'n gwneud ei lliwiau, wnaeth e newid i Gymraeg hefyd. Dim rhesymau, jyst achos mae fe'n gallu wneud e! Mae fe'n gwybod ei fod e'n siarad dwy iaith. Mae e'n dechrau sylweddoli bod lot o blant arall ddim yn siarad 2 iaith hefyd.

Wnaethon ni'n gwneud penderfyniad trio siarad 2 ieithoedd wrtho fe o'r dydd cyntaf o'i fywyd. Roedd y peth cyntaf wedais i wrtho fe yn Gymraeg. Wnaethon ni'n darllen lot o stwff amdano fe cyn gwneud penderfyniad.  Dwi'n gallu dweud nawr, ar ol 2 mlynedd, roedd 1 o'r penderfyniadau gorau mae'n posib gwneud.

Roedd un problem. Roedd y ddwy o ni siaradwyr Saesneg yn unig. Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ym Mis Mehefin 2012, roedd Iwan born ym Mis Awst 2012.  O'n i'n hollol crap. (Dwi'n dal yn crap nawr.) Wnes i feddwl (yn fwy na unwaith) bod falle o'n i'n holding back ei ddatblygiad achos o'n i'n rwtsh, ond, emphatically, nid yw hyn yn wir.

Mae ei Saesneg yn gryf. Cryf iawn.  Bydd Saesneg ei iaith cyntaf, ond siarad ail iaith dim yn gael effaith negatif ar ei iaith cyntaf. Mae fe'n gallu deall bod 2 enwau gyda stwff. Mae'n syml iawn yn ei ben! Nid yw ei fam a thad yn glyfar iawn. Oce, dy'n ni ddim yn dwp, ond, os ni'n gallu magu plant fel hyn, unrhyw un gallu gwneud e!

Wna i dweud i unrhyw un sy'n cael babi. Beth am trio 2 ieithoedd. Bydd yr ail iaith gwneud dim ond helpu yr iaith cyntaf.  Clywed eich plant dweud rhywbeth fel "there's 4 frogs" yw gwych. Bydd clywed "there's a frog Mummy, broga dadi" neu "Mynd o dan y bont - Mummy says bridge" yn chwythu eich meddwl!

Thursday 8 January 2015

Treiglad Cyntaf Iwan

Dwi'n meddwl bod pob rhieni dathlu pryd eu plentyn gwneud rhywbeth i'r tro cyntaf.

Felly, heddiw o'n i'n dathlu. Wnaeth Iwan gwneud ei treiglad yn gywir cyntaf heddiw.

 "Mae James yn goch" yw'r brawddeg wnai i fyth yn anghofio.

"Beth wedaist ti? Mae James yn coch?"

"Yn goch Dadi"

Wnaeth Tomos y Tanc helpu fi dysgu Saesneg pryd o'n i'n iau, mae fe'n fy helpu fi a fy mab dysgu Cymraeg nawr.


Mae popeth yn mor hawdd iddo fe. Dyw e ddim yn deall pam mod i'n gwneud yr iaith swnio mor anodd!