Wednesday 24 April 2019

Cerdyn Post o Loegr - neu, edrych at barn Seisnig o'r iaith Gymraeg..

2 wythnos yn ôl collais i fy shit ar bws, pryd apropros o ddim byd, wedodd dyn ifanc tu ôl i fi "Welsh is a dying language."

Ro'n i'n ar bws o Gaerwrangon i Coventry. Roedd bws llawn o Saeson. Ro'n i'n siarad Saesneg gyda fy ffrind ar y tro (a phryd mod i'n siarad Saesneg, gyda fy acen Caerloyw, fyddwch chi ddim yn meddwl mod i'n siarad Cymraeg hefyd). Roedd dim cliw gyda'r dyn yma oedd siaradwr Cymraeg eistedd ar blaen iddo fe. Dweud hyn jyst felly bod chi'n deall oedd dim yn wind up. Wnes i ddim yn nabod fe. Oedd jyst ei farn.

Wel, wnaeth fy ffrind cuddio ei phen tra o'n i'n troi tu ol... "Esgusodwch fi mêt, what did you say?"

Eniwê, ar ôl sgwrs bach addysgol, parhaision ni ar ein taith!!
Ond wnaeth sefyllfa yma gwneud i fi meddwl am yr iaith ac yr agweddau yn Lloegr i'r iaith Cymraeg.

Nawr, mae'n amhosib i fi siarad am 'y Saeson' achos dwi'm nabod pawb yn Lloegr. Dwi'm moyn siarad am cyfryngau cymdeithol achos bod ni'n gwybod i gyd bod twats sy'n cuddio tu ol eu sgrîn, teipio nonsens i gael adwaith. A dyw hyn ddim yn gynrychioli'r majority o bobl yn Lloegr. Felly, dwi wedi meddwl am pobl mod i'n nabod, rhai o nhw mod i'n caru (neu wnes i garu unwaith), gyd o nhw mod i'n hoffi. Ac, mae'n bwysig iawn dweud, mae nhw'n gwybod i gyd mod i'n siarad Cymraeg.

Gwaith:

Pryd unrhyw un arall sy'n siarad Cymraeg dod i fy ngwaith, wna i ddechrau siarad yn Gymraeg iddyn nhw. Nid mewn cyfarfod neu unrhywbeth fel hyn - Saesneg ydy'r iaith o'r busness - ond jyst cael sgwrs 1 i 1. Unwaith, ro'n i'n siarad gyda rhywun.  Oedd dyn arall o fy ngwaith sefyll agos i ni, ond oedd sgwrs rhwng fi a siaradwr arall (sgwrs chwaraeon fel arfer!).

Wedodd y dyn arall - "It's a bit rude to speak in Welsh whilst I'm stood here."

Un sefyllfa arall sy'n tebyg. Dwi'n ymweld llawer o ysgolion gyda fy swydd. Yn achlysurol gwrddiais i athro/athrawes sy'n siarad Cymraeg. Mae'n naturiol i ni siarad yn Gymraeg mewn ystafell staff, neu ystafell dosbarth. Ro'n i'n cerdded lawr y corridor siarad gyda rhywun unwaith, wedyn athrawes arall dod y ffordd arall.

Clywodd hi o'n ni'n siarad Cymraeg gyda'n gilydd.. "Oh, you could be speaking about me, couldn't you?"

Teulu:
Roedd teulu fy nhad Cymro/Cymraes Cymraeg. Siaradwr Saesneg yn unig ydy fy nhad a Saesnaes ydy fy Mam. Wedodd hi, "Well, when we used to visit them they all spoke Welsh to each other and only spoke English to us."

Roedd fy step father siarad i fi unwaith bod y tro wnaeth e ymweld tafarn yng Nghaernarfon gyda rhywun yn eu teulu sy'n siarad Cymraeg (methu cofio y stori i gyd yma, meddwl oedd rhywun sy'n priodi i fewn i'u teulu neu rhywbeth).

"They were all speaking Welsh to each other, and only spoke English to me which I thought was rude and unnecessary."

Y ddwy o nhw wedi cefnogi fi siarad Cymraeg gydag Iwan (ac i fy hun).   

Cariadau:

Edrychych, dwi'm cael llawer o straeon am fy bywyd cariad! Fel arfer dwi'n repel menywod ond dwi wedi cael 2 perthwynos - fy nghyn gwraig a fy nghariad.)

Roedd fy nghyn gwraig cefnogwr o fi siarad Cymraeg gydag Iwan TAN wnaeth e dechrau siarad nol i fi. Wnaeth hi ddim yn hoffi ffaith bod ni'n dweud stwff bod hi ddim yn deall.

"You could be saying anything."

Nawr, roedd fy mhriodas mynd lawr y shitter ar yr un pryd - felly falle meddyliodd hi o'n i'n siarad amdonon hi gydag Iwan pryd o'n i'n cael sgwrs am Tomos y Tanc neu rhwybeth, ond wneath hi agweddol yn newid am siwr, pryd oedd Iwan a fi siarad ar lefel wnaeth hi ddim yn deall.

Gyda fy nghariad mae'n wahanol, ond, achos o self esteem issues gyda'r ddwy o ni mae'n dal yn broblem bach. Cymraeg ydy:

"An important bit of your life that I can't be a part of."

Nawr, dwi'n deall tipyn bach yma. Cymeriad wahanol ydw i yn Gymraeg. Outgoing, hyderus, siarad gyda pobl mod i ddim yn nabod. Hapus. Felly dwi'n deall sut bod hi'n gallu meddwl bod e'n well i fi bywyd yn Gymraeg ac, wedyn, yn ei phen hebddo hi. Dyw hyn ddim yn cywir a tra mod i'n deall (wel, tipyn bach) dwi'n anghytuno gyda hi. Dwi wedi trio cael hi i fewn i fy mywyd Cyraeg, ond agwedd monoglot gyda hi yn anffodus, er bod hi ddim yn angen dysgu'r iaith i gymryd rhan.

"I can't learn languages."

 Wel, beth ydr'r pwynt o hyn?? Wel, gobeithio gan edrych trwy agweddau ffrindiau/teulu/cariadau bydd posib deall pam y Saeson cael teimlad negatif i'r ieithoedd arall.

Mewn cymdeithas monolingual (sydd, tu fas o'r dinasau mawr, ydy Lloegr) mae agweddau i ieithoedd ydy paranoid yn llwyr. Pryd bod chi'n gallu deall pawb achos pawb siarad Saesneg yn unig pryd rhywun siarad iaith arall, wrth gwrs, mae'n jyst achos bod nhw'n siarad amdanoch chi.  Trwy hyn mae'n posib gweld jyst sut Brecsit wedi digwydd.

Mae'n bwysig dweud bod pawb dwi wedi grybwyll yn y flog yma ydy pobl da. Dim hilwyr. Dim cefnogwyr EDL etc. Cywir, wnaeth fy mam darllen Daily Mail (rhywbeth sy'n dal yn gyrru fy nghwaer a fi i anobeithio yn llwyr) ond mae nhw'n cynrychioli'r Seisnig arferol. Pobl da, sy'n dal yn becso am phobl siarad ieithoedd ym Mhrydain, jyst incase rhywun ydy siarad amdano nhw.

Yn anffodus sai'n gweld hyn newid yn y dyfodol agos. Bydd Lloegr yn dod mwy introverted am y 20 mlynedd nesa yn ol pob tebyg. Sai'n gwneud unrhywbeth amdano fe. Wel, dim ond parhau siarad Cymraeg pob dydd yma.