Thursday 29 May 2014

Sut i deimlo fel fi!


O'n i'n disgwyl ar stats i fy mlog i. Pan dw i'n sgwennu rhywbeth, fel arfer bydd 50 pobl i ddarllen e. Weithiau dw i'n sgwennu rhywbeth diddorol a bydd 100 - 150 pobl darllen. Unwaith, wnes i gael 370 darllenwyr!

Felly, wnes i ofyn i fy hun, pwy sy'n darllen fy mlog i? Dysgwyr, neu siaradwyr iaith cyntaf. Sai'n gweld pwy ar fy control panel, jyst faint o bobl. Wel, ar Twitter, dw i'n dilyn lot mwy siaradwyr na dysgwyr, felly dw i'n meddwl mwyaf darllenwyr o fy mlog i siarad Cymraeg iaith gyntaf.

Felly - 2 pethe te.

1 - Diolch yn fawr iawn i ddarllen a sori i'r gramadeg nonsens..

2- Rydych chi'n moyn gwybod sut mae'n teimlo pan fy mod i'n gwneud gwers?  Dyma her bach i chi. Mae'n amser i chi gyd profiad y pwyntiau uchel ac isel o dysgu ieithoedd. Mae'n teg eich bod chi'n rhannu fy rhwystredigaeth ie?!

1000 geiriau o Gaelg flwyddyn hyn.

http://learnmanx.com/cms/1000words.html

Bant a chi te, paid anghofio dweud i fi sut eich bod chi'n teimlo!

No comments:

Post a Comment