Wednesday 21 May 2014

Taro'r Wal

Mis nesa bydda i'n wedi bod dysgwr i 2 mlynedd. Dylai bod yn hapus. Dw i'n gallu siarad gyda pobl yn fy ail iaith. Mae pawb yn dweud dw i'n gwneud sense. Dwi wedi dysgu fy mab Cymraeg ac mae e'n gallu deall. Chwarae teg, pan dw i'n disgwyl nol, dwi wedi dod ffordd hir.... Ond...

Dwi wedi taro'r wal ar hyn o bryd.

Rili taro'r wal.

Ar ol 20 mis gwaith galed, dwi wedi gwneud 15 munud o wersi yn 15 diwrnod nawr. Dw i'n dal yn siarad bob dydd. Dw i'n dal yn gwrando i Radio Cymru bob dydd. Dw i'n dal yn gwylio S4C bob dydd, felly dw i'n dal yn ymarfer yr iaith, ond, dwi ddim yn moyn dysgu rhywbeth newydd a sai'n deall pam. Wnes i jyst stopped cael mwynhau gwneud gwers.

Dwi wedi gwneud lot o gamgymeriadau ers dechrau dysgu, ond o'n i'n wastad cael hwyl trio siarad. Reit nawr, popeth yn annoying fi.  Pam? Falle, dw i'n wedi blino ar ol waith. Sai'n joio gwaith ar hyn o bryd, felly Falle does dim chwant arna'i gwneud dim byd pan dwi'n dod gytre. Neu, falle, mae'r iaith yn fwy galed nawr. Falle dwi wedi dysgu stwff hawdd i gyd ac dwi ddim yn capable o deall pethe galed? Sai'n gwybod, ond oes dysgwyr arall wedi teimlo fel hyn?


Bydd rhaid i fi dal ati.. . Dw i'n gwybod hyn, ond mae eisiau i fi dod o hyd fy motivation rhywle.. Paid becso, fydda'i ddim yn stop. Dw i'n caru siarad Cymraeg. Byddwch chi'n dal yn gweld fy nghymraeg rwtsh ar eich timeline chi!  Sai'n i wneud hyn jyst i fy hun.

No comments:

Post a Comment