Friday 27 June 2014

Diolch i Llinos, Llun ciwt o Iwan ymarfer ei Gymraeg, a nonsens o fi!

Mae siaradwyr Cymraeg yn neis iawn i fi. Dyma fi, gwneud 'clust moch' o siarad eich iaith ond mae pawb moyn helpu fi.
Wnes i siarad Cymraeg i rhywun arall i'r tro cyntaf ym Mis Awst 2012, a dwi wedi trio siarad Cymraeg ar pob taith i Gymru ers.

Cael hyderus siarad i siaradwyr yw un o'r pethe yn fwyaf anodd i ddysgwr (wel, sai'n siarad i bob dysgwyr, ond roedd yn wir i fi)

Nid achos o'n i'n scared o gwneud camgymeriadau, neu o rhywun cywiro fi, ond achos sai'n moyn sarhau'r iaith. Mae'n bwysig iawn i ni i deimlo fel 'yn ni'n helpu'r iaith. Ar ôl 2 flynedd, dwi wedi dod o hyd llawer o bobl oedd sy'n hapus i siarad i fi a jyst ddwywaith roedd rhywun rude i fi.

Mae stereotype ymhlith siaradwyr Saesneg yw'r siaradwyr Cymraeg pobl crac hen bydd sy'n gweiddi at ti pan ti'n anghofio treiglad nasal, neu, defnyddio gair Saesneg mewn brawddeg. Pan wnes i ddechrau siarad i bobl, fydde a'i ddim yn siarad Cymraeg unless mae gallu gyda fi dweud bob gair yn Gymraeg.. Nid nawr, dwi'n jyst siarad, ac taswn i'n anghofio geiriau, baswn i'n siarad Saesneg nes dw i'n gallu mynd nôl i Gymraeg

Iwan darllen ei llyfr newydd!
Ac wedyn, wythnos yma, roedd rhywun hala llyfr i fi i helpu Iwan a fi dysgu. Dyma random act of kindness i ddim reswm except helpu fi siarad gwell.
Dim siaradwyr Saesneg byth yn hala rhywun am ddim fel hyn i fi.. Felly, mae conclusion:

1) 2 twats siarad Cymraeg .
2) Lots o twats siarad Saesneg.
3) Dysgwyr - paid becso am defnyddio Saesneg - honestly bydd hyn eich achub chi 6 mis o cyfle colli.
4) (ac mae peth yn fwyaf bwysig!)
DW I'N HAPUS I CHI HALA LLYFRAU I IWAN A FI

No comments:

Post a Comment