Tuesday 1 July 2014

Mae'n amser derbyn bod Cymraeg yn nol yn fy nheulu.

O'n i'n gwrando i Iwan siarad yn Gymraeg heno ac wnes i feddwl hyn. Mae e'n siaradwr cyntaf yn fy nheulu agos ers 1977!

Roedd Dadcu yn siaradwr ond wnaeth e ddim yn dysgu un gair i fy nhad. Pan wnaeth e farw roedd Cymraeg wedi marw yn fy nheulu hefyd.

Wel nawr, mae iaith yn nol. Sai'n gwybod sut wahaniaeth Cymraeg wedi gwneud i Iwan, ond mae nursery dweud mae e'n clyfar, ac ei fod e'n siaradwr cryf iawn. Falle bydd e'n jyst clyfar, ond dim cliw gyda Mam a fi o ble mae hyn yn dod, ond, falle 2 ieithoedd yn helpu. Dwi'n gwybod hyn, dim byd drwg gallu digwydd i unrhyw un gan siarad yn fwy na 1 iaith!

Heno wnes i drio chwarae trick iddo fe.

Dyma sgwrs:

"Iwan, y am"
"Ystlum"
"Da iawn Iwan. Beth yw ystlum yn Saesneg?"
"Bat, ystlum bat."
"Da iawn, what do you say to a chicken?"
"Clwc"
"Beth yw Chicken yn Gymraeg."
"Cyw...... Chick.....Cyw"

Mae e'n gallu newid rhwng ieithoedd yn hawddach na fi. Sai'n gallu meddwl yn Gymraeg, ond dwi'n siwr ei fod e'n gallu! mae un peth yn gywir. Mae iaith Cymraeg yn nol mewn teulu Rogers. Mae eisiau i fi symud yn glou achos yn 12 mis bydd e'n siarad gwell na fi!

No comments:

Post a Comment