Monday 9 June 2014

Rant ddibwynt olaf (nes Mis Gorffenaf) - Mae'n amser Cwpan y Byd!

Wel, dyna ni, ar ôl 2 flynedd (wel yn 1 wythnos) mae Iestyn (fy athro i) wedi newydd dweud - " dyle ti bod impressed iawn gyda mae gallu gyda ti byw yn Gymraeg." Wel, mae'n neis glywed (patently anghywir, ond neis).

Dyma fy mhroblem i. Ie, dwi'n siwr fy mod i'n gallu mynd i Gymru a siarad Cymraeg. Dw i'n meddwl fy mod i'n gallu mynd mewn siop, neu dafarn, neu fwyty a chael yr peth dwi'n moyn ( treigladau shit wrth gwrs, ond, sai'n care am hynny!) Felly, pam sa i'n gallu deall pobl siarad nol i fi. Neu pam sai'n deall Radio Cymru neu S4C.

Dw i'n clywed geiriau dw i'n gwybod ond so nhw'n gwneud sense i fi. Mae'n rhwystredig iawn. Dw i'n gwrando i Tommo ar Radio Cymru. Mae dysgwyr arall dweud "Mae e'n rhy hawdd deall", ond nid i fi. Mae'n dim wahaniaeth i bob sioe arall.

Dwi ddim yn dwp, dw i'n twat ond dwi ddim yn dwp. Dw i'n gallu sgwennu stwff fel hyn, felly mae stwff aros mewn fy mhen i, ond, sai'n deall yr iaith allan cegau pobl arall.

Bydd popeth gwneud sense i fi un diwrnod? Neu falle dwi'n jyst gwrandawr shit. Dw i'n gallu get away with it yn Saesneg achos does dim eisiau i fi feddwl am y peth. Neu, falle fy brain wedi gwneud penderfyniad subconscious bod pawb arall siarad dim ond malu cachu!

Wel, mae'n digon siarad dysgwr nawr. Dwi ar fin dechrau mwynhau fy nghwpan y byd cyntaf yn Gymraeg. Mae hyn cyfle wych i fi defnyddio Cymraeg, felly, expect lot o bêl-droed ar fy mlog i y 6 wythnos nesa!

2 comments:

  1. Dwi wedi dysgu Cymraeg yn rhugl (ers blynyddoedd bellach) a dwi'n cofio gwrando ar raglenni Cymraeg a pheidio â deall fawr dim byd! Cariwch ymlaen i wrando - yn raddol wnewch chi deall mwy a mwy! I ddechrau, efallai ond ambell i air, wedyn ychydig o eiriau gyda'u gilydd, wedyn rhan o frawddeg ac yna frawddeg cyfan. Y peth pwysicaf ydy i beidio digalonni a chariwch ymlaen i wrando.

    ReplyDelete
  2. Diolch i'r comment (ac i ddarllen hefyd!) - mae'n rhwystredig achos dw i'n gallu dweud lot o stwff nawr. Cyn dechrau dysgu wnes i fyth yn gwbod bod gwrando yn fwy anodd na siarad.

    ReplyDelete