Sunday 31 January 2016

Awr Y Dysgwyr - Wythnos Cyntaf - DIOLCH!!

Wel, roedd wythnos cyntaf #aydysgwyr lot gwell na wnes i feddwl oedd posib.
Os mod i'n honest, o'n i'n disgwyl spectacular failure, fel pob syniad arall sydd wedi dechrau yn fy mhen, ond dwi'n siwr bod Twitter gallu chwarae rol pwysig iawn yn tyfu'r iaith ac yn gwneud cyfleoedd am ddysgwyr ymarfer eu sgiliau Cymraeg.

Stats:

#aydysgwyr


Roedd 331 twits defnyddio #aydysgwyr Nos Lun diwethaf.
110 'original tweets'
34 @ negeseuon
187 AD

Dwi ddim yn deall stats yn rhy da, ond, edrych fel roedd posib bod #aydysgwyr mynd i 100,000 cyfrif Twitter.

Roedd potential timeline delivery - 450,000 pobl. Ie, wrth gwrs oedd hyn 'best case scenario' ond waw!







Beth am gyfrif @AwrYDysgwyr te:


1 wythnos:

197 twîts.

48,000 Tweet impressions.

2893 ymweldwyr.

304 dilynwyr.




Sai'n deall popeth am cyfryngau cymdeithasol a dwi'n deall llai am y Gymraeg ond dwi'n gwybod hyn - Twitter gallu helpu dysgwyr a'r iaith.

No comments:

Post a Comment