Friday 7 March 2014

Stwff dwp dwi wedi dweud (3).. Wel, tweeted.

Dwi wedi swnio fel twpsyn dwywaith wythnos hyn.

Dw i'n defnyddio Twitter i siarad gyda phobl. Mae'n bwysig iawn trio cael stwff fy mod i'n wedi dysgu i sgwrs. Weithiau dw i'n gwneud camgymeriadau mawr.

Wel, blydi hashnod yn peryglus iawn i fi. Penwythnos diwethaf o'n i'n ar twitter ac wnes i weld lot o #cig2014. Wnes i feddwl oedd rhywbeth yn digwydd gyda Chig yng Nghymru!  Dw i'n gwybod am Can I Gymru hefyd, wnes i wylio sioe 2013. Lwcus, wnes i ddim yn sgwennu tweet fel "Beth yn drwg gyda Chig heno!"

Camgymeriad hawdd gwneud, a dwi wedi gwneud lot o camgymeriadau worse na hyn.

Un peth arall anodd iawn, wnes i anghofio pawb siarad Saesneg weithiau hefyd, neu gwylio rhaglen teledu yn Saesneg. Dw i'n jyst dilyn pobl pwy sydd siarad Cymraeg (ac mae rhai o bobl pwy sydd siarad Manaweg, Cernyweg neu Gaeleg hefyd), felly, dim Saesneg ar fy timeline rili.

O'n i'n darllen tweets a wnes i weld rhywun sgwennu #Dynamorevealed. Wnes i ddarllen hyn fel "dyn a mor, Eve Aled" felly o'n i'n chwylio i rhaglen am Eve ac Aled hwylio ar y mor rhwle!

Ie, dw i'n swnio fel prat pan dw i'n sgwennu amdano fe, ond, dw i'n hapus.. Falle tipyn bach o fy brain dechrau meddwl yn Gymraeg! Dw i'n dechrau darllen Saesneg fel Gymraeg.. Progress.

Nawr, dw i'n mynd sgwennu i BBC Lloegr am fy syniad gwych newydd. "Man and Sea - Eve and Aled sail around Britain." Ennillwr!

No comments:

Post a Comment