Saturday 1 March 2014

Siarad am Poo!

Dw i'n trio siarad Cymraeg gyda fy machgen a) felly bydd e'n siarad iaith yn fwy hawdd na fi (gobeithio) a b) achos mae hyn yr unig ffordd dw i'n gallu ymarfer yng Nghaerloyw.

Wel, gallwch chi'n dychmygu mae rhai o'r stwff dw i'n dweud bob dydd. Heddiw o'n i'n newid ei glwt, a siarad wrtho fe ar yr un pryd.

Wnes i ddweud hyn..

"Wyt ti'n mynd i poo?"

"Na, dylen i dweud wyt ti'n mynd i boo.."

"Er, na, sai'n dweud hynny achos ni'n chwarae peek a boo! Sgwn i beth yw poo yn Gymraeg.. Poo yw poo dw i'n meddwl. Ugh, dwi ddim yn wybod. Falle, bydd rhaid i fi siarad am poo yn Saesneg!"


Siarad am poo a treigladau gyda Iwan. Oedd hyn beth o'n i'n meddwl bydde i'n gwneud, pan wnes i benderfynu dechrau dysgu iaith!

No comments:

Post a Comment