Monday 14 July 2014

Brasil 2014 - Cwpan Y Byd Cyntaf yn Gymraeg!

Wel, dyna ni, mae Cwpan Y Byd wedi dod i Roedd Brasil 2014 yn bwysig i fi i 2 rhesymau.

1.) Roedd e'n y tro olaf bod chwaraewr mewn rownd derfynol yn henach na fi. Diolch Miroslav Klose.

2.) Roedd e'n tournament rhwngwladol cyntaf, roedd mod i'n gallu express fy marn i yn 2 iaith.


Wel, dw i'n dweud 2 iaith, ond dyma fy stats.

Statws am Cwpan Y Byd 2014 yn Saesneg - 15
Yn Gymraeg - 68

Felly, rili, mae Cymraeg fy iaith cyntaf nawr!

Roedd Cwpan Y Byd diddorol iawn i fi, ie roedd y bêl-droed yn iawn (Nid gwell na Mecsico 86 yn fy marn i, ond, gwell na bob Cwpanau arall ers), ond diddorol achos wnes i ddewis siarad yn Gymraeg lot mwy na Saesneg.

Falle, achos mae'n newydd a chyffrous i fi.
Falle, mae'n achos fy ffrindiau Twitter yn fwy diddorol na fy ffrindiau.
Falle, mae'n achos fy mhen i wedi derbyn bod Cymraeg yn well na Saesneg.

Pwy sy'n gwybod?  Ond, cyn Ewro 2016 (a dwi'n rili credu bydd tîm Cymru yn qualify i hyn) mae eisiau i fi dysgu sut i ddweud twat yn Gymraeg, achos bob tro mae Andy Townsend siarad, dwi'n gweiddi twat.. Well i fi neud hyn yn Gymraeg!

Ah sod it, dw i'n gwbod yr ateb. Bydd tîm Cymru mynd i Frainc, felly bydd Iwan a fi mynd i Frainc hefyd. Dim Townsend ar Canal +!
Un problem, mae fy Ffraneg gwneud fy Nghymraeg swnio gwych!

Da iawn Yr Almaen hefyd - tîm gorau, chwaraewyr gorau.

No comments:

Post a Comment