Tuesday 26 August 2014

Mynd i Gaerdydd Heddiw. ( lot o waffle yma!)

Os wnaethoch chi'n dweud i fi, cyn wnes i ddechrau dysgu'r iaith, fy mod i'n mynd i Gaerdydd a mynd mewn 2 siopau, bydde i'n ymateb i ti rhywbeth fel "cau dy geg di."

Mae rhesymu yn syml iawn. Dw i'n casau siopa yn llwyr. Mae'n gwneud i fi crac iawn, sefyll mewn siop tra mae fy ngwraig chwylio i ddillad, neu cerdyn. 

Os wnaethoch chi'n dweud i fi, cyn wnes i ddechrau dysgu'r iaith, mod i'n mynd i Gaerdydd a mynd mewn 2 siopau, a siarad i bobl, bydde i'n dweud i ti. "Dim siawns." Dwi ddim yn siarad i bobl yn Saesneg allan o teulu, ffrindiau neu gwaith. Ac, yn fy ngwaith well i fi hala ebost at rhywun pan mae'n phosib! Mae fy lefel self esteem yn isel iawn. Sai'n gwybod pam. Roedd fy mhlentyndod yn hapus iawn. Wnes i wneud yn iawn yn ysgol. O'n i'n decent ar chwareon. Dwi'n priod, dwi wedi brynnu ty. Mae gwaith gyda fi, ac Iwan gwneud i fi teimlo yn fwy hapus na unrhywbeth yn y byd. Mae hynny'n jyst fi. Bydda i'n dweud  dim ond hello, please a thank you i strangers yn Saesneg.

Heddiw wnes i fynd i Gaerdydd. Wnes i fynd mewn siop a dechrau siarad shit ar ol 5 eiliad. Mae'n teimlo gwych. Gwych achos pobl gallu deall fy Nghymraeg. Dyw siaradwyr iaith cyntaf o unrhyw iaith yn deall jyst sut mae'n teimlo i ddweud rhywbeth a chlywed rhywun siarad nol! Ond, mae'n mwy bwysig i fi. Dysgu Cymraeg wedi cynnig cyfle i fi i fod fel pobl arall a chael sgwrs gyda phobl newydd.


Wnes i fynd mewn Siop Cant a Mil Vintage ar Ffordd Whitchurch heddiw. Roedd neis jyst  eistedd ar y soffa, yfed coffi a siarad. Mae pawb yma yn friendly iawn a hapus i siarad i fi. Ac y peth gorau. Pryd wnes i ddim yn deall wnaethon nhw'n trio dod o hyd modd arall esbonio i fi yn Gymraeg. Mae hyn yn bwysig iawn i fi. Sai'n siarad fel siaradwr. Dwi'n gallu siarad beth wedi bod yn dysgu i fi yn unig. Ond, weithiau, mae'n siawns fy mod i'n gallu deall tra mod geiriau yn newid. Mae'n mor neis pan pobl gallu cymryd amser i wneud hyn. A chofio hefyd, taswn i'n mynd nol i Saesneg baswn i'n dweud dim ond hello, please a thank you!!

No comments:

Post a Comment