Wednesday 13 August 2014

Sai'n Canu, Sai'n Chwarae, Sai'n Siarad. Paid becso Dave a Dal Ati!

Gwrando i gerddoriaeth Cymraeg yw un o'r pethe gorau am ddysgu'r iaith.
Ers gwneud penderfyniad newid i Radio Cymru dwi wedi ddod o hyd lot o bandiau newydd mod i'n hoffi.

Dw i'n gallu cofio trio gwrando cerddoriaeth Ffraneg pryd o'n i'n dysgu yn ysgol. Roedd yn crap. Mae cerddoriaeth Cymraeg yn gwych, ond, mae'n anodd i ddysgwyr fel fi achos dim gallu gyda ni canu i ganeuon heb chwylio am google i'r geiriau. Mae'n blydi anodd hefyd. Dwi'n meddwl bod yn phosib dod o hyd geriau i bob caneuon yn Saesneg, ond yn Gymraeg? Na.

Dwi wedi wastad dweud - "Lyrics are irrelevant in a song." Mae'n gywir, mae pawb gallu penderfynu os mae nhw'n hoffi cân heb eisiau deall lyrics, ond, mae'n neis i ganu hefyd!

Felly, dwi'n mynd record fy hun canu caneuon Cymraeg. Gobeithio, os (neu pan) dwi'n gallu dysgu siarad gwell, dwi'n gallu disgwyl nol ar caneuon a gweld fy taith o ddysgu! (jyst fel darllen fy mlog i!)

Felly dyma Sega Segur.

Nid yw fersiwn perffaith, ond dwi'n moyn i gadw fe fel hwn. Camgymeriadau a mispronounciations ac all.

Fel:

Wnes i anghofio am tipyn bach o'r can. Wwps.. Sori Gruff!
Mae'n un lein dwi ddim yn gallu deall, wnes i wrando eto a eto ond dim cliw. Felly dwi'n jyst mumble.
Un lein (2.24) o'n i'n disgwyl ar fy nghath cael fight gyda pili pala ac wnes i anghofio dechrau canu! Dim gallu gyda fi edit llais, felly oedd rhaid i fi dewis rhwng dechrau eto neu cadw camgymeriad mewn. Felly, mae'n aros mewn.
Sai'n canu yn digon glou!

Sai'n canu.
Sai'n chwarae gitar yn dda.
Dwi'n passable ar y bass
Dwi'n gallu chwarae drwms ok, felly, obviously, dim drwms yma!
Sai'n darllen cerddoriaeth, dwi'n gwneud popeth gan clust.
Sai'n siarad Cymraeg.

Recipe for success! Ond, anghofio sut mae'n swnio. Peth fel hwn gwneud dysgu diddorol. Dwi ddim yn moyn dysgu Cymraeg i gael treigladau neu tenses perffaith bob tro. Dwi ddim yn care am hyn yn Saesneg neu Cymraeg. Ond, pan dwi'n gwrando i'r Radio, dwi'n moyn canu!






No comments:

Post a Comment