Monday 17 February 2014

Deall Pan Pobl Cymryd Y Piss!

Bob dydd dw i'n gwrando i Radio Cymru pan dw i'n mynd i ac o gwaith. Mae'n defnyddiol iawn i ymarfer gwrando fel hyn, yn enwedig achos dw i'n rwtsh ar gwrando. Mae'n 32 milltir rhwng Caerloyw (gytre) a Chaerwrangon (gwaith), felly lot o amser gyda fi gwrando i geiriau a trio deall!    

Roeddwn i fynd i fyny y M5 y bore yma. Roedd hi'n smashing (smashio??) i lawr gyda glaw, rili drwm iawn. Dyma fi gyda wipers mynd yn glou, meddwl o un arall gyrru ofnadwy, pan dw i'n clywed cân dw i'n gwybod dechrau.. Roedd Ysbeidiau Heulog gan Super Furry Animals.

" Ha ha," wnes i ddweud i fy hun, "Rhywun wedi gymryd y piss yma!"

Ond, ar ôl meddwl amdano fe, mae'n moment of triumph i fi. Ie, mae rhywun yn cymryd y piss, ond, wnes i ddeall bod rhwyun yn cymryd y piss. Gwych.

3 comments:

  1. Ha! Da iawn. Sôn am gymryd y piss - pan mae'n bwrw'n drwm galli di ddweud "mae'n pistyllio bwrw" (pistyll = spring / spout), neu bod yn anffurfiol - "mae'n piso bwrw"!

    ReplyDelete
  2. 'Stido bwrw' mae rhai yn dweud (Gogledd Orllewin). Mwy safonol/ffurfiol yw 'tywallt y glaw' neu 'Arllwys y glaw'. Ond dwi'n deud piso bwrw hefyd

    ReplyDelete
  3. Ha - dw i'n hoffi swn o piso bwrw! Mae hynny'n mynd mewn fy vocab nawr!! Diolch i ddarllen fy mlog a sgwennu ymateb!

    ReplyDelete