Monday 13 January 2014

Pethau dwp dwi wedi dweud (1)

Mae dim pwynt dechrau dysgu iaith heb mae'r gallu gyda chi chwerthin am camgymeriadau.. Yr unig broblem - amser mwyaf do'n i ddim yn wybod wnes i wneud camgymeriad nes amser hir ar ôl.
Wel, dwi'n meddwl dylen i wneud permanent record o pethau dwp bod dod allan o fy ngheg..

Dw i'n meddwl mae'n galed i bobl pwy sy'n byth yn dysgu unrhyw iaith i ddeall y panic mawr bod dod mewn fy brain i pan dwi wedi ddechrau sgwrs gyda rhywun. Fy brain dim yn gallu meddwl yn digon glou. Dw i'n meddwl yn Saesneg, felly bob tro rhywun siarad i fi dw i'n gwneud hyn. Gwrando i Gymraeg > trio i translate i Saesneg > meddwl o ateb yn Saesneg > translate nol i Gymraeg > Agor geg a gobaith mae swn gywir dod allan! Bob 5 eiliad... Weithiau fy brain mynd blank. Pan mae hyn yn digwydd Mae'n 3 opsiynau wahanol agor i fi.
1) Mynd nol i Saesneg
2) Aros yn dawel
3) Agor fy ngheg i a gobaith i'r gorau

Dim pwynt yn opsiwn 1. Dw i'n gwybod dw i'n gallu siarad Saesneg. Dim pwynt gyda opsiwn 2 achos dwi ddim yn hoffi dawel awkward. Opsiwn 3 yw'r ateb, bob tro. Ond, gan dewis mae ffordd hyn, dw i'n gallu swnio fel twll dîn ceffyl. (Horse's arse? Mae'n phrase poblogaidd iawn yn Gorllewin Lloegr)


Felly, dyna ni, dwi wedi dweud hyn mewn siop.

" Faint o Ariannin yw hyn?"

Faint o blydi Ariannin.. Dw i'n twat yn llwyr! Falle dylen i ddechrau defnyddio gwlad De Americanaidd yn bob sgwrs. Dw i'n mynd i'r archfarchnad fory. "How much Argentina is that pal?"

No comments:

Post a Comment